Cymryd arian o gyflog rhieni
Os oes gan y rhiant dibreswyl swydd byddwn yn gyntaf yn ceisio cymryd arian yn uniongyrchol allan o'u cyflog. Gelwir hyn yn 'orchymyn didynnu o enillion'. Rydym yn cyhoeddi 25 o orchmynion newydd bob awr yn gofyn i gyflogwyr gymryd arian o gyflogau.
Mewn achosion newydd rydym yn anelu i wneud hyn o fewn pedwar mis o ddweud yn gyntaf wrth y rhieni beth y dylent dalu. Mae'n ofynnol o dan y gyfraith i gyflogwr gymryd cynhaliaeth o gyflog rhieni os byddwn yn dweud wrthynt wneud hynny.
Os yw'r rhiant dibreswyl yn cael budd-daliadau, pensiwn, neu Bensiwn Rhyfel, byddwn fel arfer yn cymryd y swm dyledus yn uniongyrchol o'u budd-daliadau neu bensiwn. Os yw'r rhiant dibreswyl yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi ac wedi methu â gwneud eu taliadau, byddwn yn anfon cais i'r Weinyddiaeth Amddiffyn i gymryd y swm sy'n ddyledus.
Os yw'r rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, ni allwn ddefnyddio gorchymyn didynnu o enillion gorfodol ond gallwn ddal gymryd camau drwy'r llys i wneud iddynt dalu.
Cymryd camau drwy'r llys
Os na allwn gymryd arian o gyflog rhiant byddwn yn gwneud cais i'r llys am orchymyn atebolrwydd am y gynhaliaeth plant sydd wedi'i fethu. Caniateir hyn i ni gymryd camau cyfreithiol i gael yr arian sy'n ddyledus. Mae dyledion 35 o rieni sydd ddim yn talu yn cael eu pasio ymlaen i'r llysoedd bob dydd.
Mae'r camau cyfreithiol y gallwn eu cymryd wedi hyn yn ddibynnol ar bob achos a gallwn ddefnyddio mwy nag un ar y tro.
Darganfyddwch mwy am y camau y gallwn eu cymryd os yw'r rhiant dibreswyl yn byw yng Nghymru a Lloegr, Yr Alban neu Dramor.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Pa gamau all y CSA eu cymryd os na fydd rhieni'n talu?" [941Kb]

