HafanAmdanom niNewyddion a ChyfryngauCwestiwn ac ateb › Cynllun Gwella Gweithredol

Cwestiwn ac ateb

Y Cynllun Gwella Gweithredol



C. Ydy'r Asiantaeth Cynnal Plant yn mynd? Beth yw'r cynllun ar gyfer yr Asiantaeth newydd?

A. Gosododd y llywodraeth ei chynlluniau ar gyfer dyfodol cynnal plant mewn Papur Gwyn, y cyhoeddwyd yn 13 Rhagfyr 2006. Roedd hyn yn cynnwys argymhellion i ddisodli'r Asiantaeth Cynnal Plant gyda Corff Cyhoeddus Anadrannol - y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth.

Bydd hyn yn cymryd amser. Am nawr, bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn canolbwyntio ar gael mwy o arian i fwy o blant er mwyn creu sylfaen gadarn ar gyfer y corff newydd.

Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn parhau i gyflawni manteision o'r Cynllun Gwella Gweithredol tair blynedd, gan gasglu mwy o arian i fwy o blant a bod yn fwy llym gyda rhieni dibreswyl sy'n osgoi eu cyfrifoldebau ariannol.


C. Beth yw'r Cynllun Gwella Gweithredol?

A. Lansiwyd y Cynllun Gwella Gweithredol ym mis Chwefror 2006. Dros dair blynedd caiff £120 miliwn ychwanegol ei fuddsoddi yn y CSA er mwyn gwella'r gwasanaeth y cynigwn i'n cleientiaid yn sylweddol.

mae'r cynllun, y bydd yn parhau am dair blynedd, wedi'i ddylunio i'n helpu i newid sut rydym yn gweithio yn gyfan gwbl, ac ein gwneud i ganolbwyntio ar y pethau sydd bwysicaf i'n cleientiaid. Mae wedi ei bennu o dan bedwar pennawd:

  • Cael pethau'n iawn - casglu gwybodaeth ac asesu ceisiadau
  • Cadw pethau'n iawn - rheoli achosion parhaol
  • Rhoi pethau'n iawn - gorfodi cyfrifoldebau; a
  • Cael y gorau allan o'r sefydliad .

C. Ydy hyn ddim yn wastraff arian os ydych yn cael gwared ar yr Asiantaeth?

A. Na - yn ystod y cyfnod pan fyddwn yn sefydlu'r corff newydd, bydd y CSA yn parhau i gasglu cynhaliaeth ar gyfer plant ac yn parhau i gael cefnogaeth lawn y Llywodraeth.

Mae perfformiad yr Asiantaeth wedi gwella'n ystod y misoedd diweddaraf, gan roi sylfaen gadarn i ni allu cyflawni gwelliannau yn y dyfodol a sicrhau y caiff cynhaliaeth plant ei chasglu'n llwyddiannus.

Bydd gwelliannau i weithdrefnau presennol y CSA yn hanfodol er mwyn sefydlu'r corff newydd, a bydd unrhyw welliannau a wneir i'r sefydliad presennol yn cael eu trosglwyddo fel gwelliannau i'r corff newydd.


C. Beth ydych chi'n ei wneud er mwyn gwella pethau?

A. Roedd cam cyntaf y Cynllun Gwella Gweithredol yn canolbwyntio ar ail strwythuro sefydliad a gweithdrefnau'r CSA, yn ogystal â'r hyfforddiant ar gyfer ein pobl er mwyn cynyddu eu nifer a'u gallu.

Yn 2007/08 byddwn yn cyflawni ail flwyddyn y cynllun. Byddwn yn parhau i gyflwyno'r newidiadau i sut mae'n sefydliad wedi'i drefnu. Hefyd bydd nifer o wir fanteision parhaol i'w gweld o Wanwyn 2007. Mae'r rhain yn cynnwys:

Cael pethau'n iawn

  • cyfathrebu'n well â chleientiaid trwy wella ein systemau ffôn a chreu taflenni, ffurflenni a llythyrau symlach.

Cadw pethau'n iawn

  • gwella ein proses delio â chwynion; ac
  • ymgyrch, i'w lansio yn ystod yr haf 2007, i helpu delio â'r broblem o rieni dibreswyl anghydweithredol sydd, er y dylent dalu cynhaliaeth plant, yn gwrthod gwneud hynny. Bydd yr ymgyrch yn amlygu ein pwerau gorfodi a sut y byddwn yn eu defnyddio fwyfwy yn erbyn y rhai hynny sydd yn osgoi eu cyfrifoldebau.

Rhoi pethau'n iawn

  • casglu hen ddyledion, drwy ein pobl ein hunain a thrwy weithio gydag asiantaethau casglu dyled arbennig; a
  • gwelliannau i'n system gyfrifiadurol i gynyddu cynnyrch, helpu ein gwaith casglu dyled a gorfodi cyfreithiol a chynyddu'r lefelau o gydweithrediad.

Cael y gorau allan o'r sefydliad

  • gwasanaeth rheoli gwybodaeth diwygiedig i gefnogi rheolwyr wrth gyflwyno gwelliannau parhaol i'n gwasanaeth;
  • cynllunio a blaenoriaethu gwell, drwy reoli pob risg yn fwy effeithiol;
  • model gweithredu wedi'i ail ddylunio, gyda system gyfrifiadurol well er mwyn gwella effeithlonrwydd; a
  • gwelliannau i'n system gyfrifiadurol i'n helpu ni i:
    • gwneud mwy;
    • datrys problemau gydag achosion na ellir eu gweithredu ar hyn o bryd;
    • lleihau'r nifer o achosion sy'n cael eu delio â hwy yn glerigol;
    • gwella cyfrifo ariannol; a
    • rheoli taliadau'n fwy effeithiol i gleientiaid.