Hafan › Amdanom ni › Newyddion a Chyfryngau › Cwestiwn ac ateb › Apelio yn erbyn ein penderfyniadau
Cwestiwn ac ateb
Apelio'n erbyn ein penderfyniadau
- Beth ddylai pobl ei wneud os ydynt yn credu bod y CSA wedi gwneud y penderfyniad anghywir am faint o gynhaliaeth ddylid ei thalu?
- A oes unrhyw benderfyniadau na allaf apelio yn eu herbyn?
- Ydy'r bobl sy'n gwneud gwaith apêl yn gweithio i'r CSA?
- Faint o amser mae apeliadau'n eu cymryd?
- Oes rhaid i'r CSA ddilyn penderfyniad y tribiwnlys?
- Beth fydd yn digwydd os bydd y tribiwnlys yn penderfynu bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir?
- Beth gall pobl wneud os ydynt yn anghytuno gyda phenderfyniad y tribiwnlys?
C. Beth ddylai pobl ei wneud os ydynt yn credu bod y CSA wedi gwneud y penderfyniad anghywir am faint o gynhaliaeth ddylid ei thalu?
A. Os oes gan y naill riant wybodaeth, y credant fyddai'n effeithio ar swm y gynhaliaeth plant, gallant ofyn ar unrhyw bryd i ni edrych ar y penderfyniad eto.
Gallant hefyd ofyn i dribiwnlys annibynnol edrych ar eu hachos. Gallai gymryd cryn amser i ddod i ganlyniad.
- Mae'n taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [PDF 202KB]
yn egluro mwy am hyn.
Rhai pwyntiau pwysig am newid ein penderfyniad:
- Os byddwn ni, neu dribiwnlys, yn gwneud penderfyniad newydd, gallai naill ai gynyddu neu ostwng swm y gynhaliaeth plant sy'n daladwy.
- Bydd penderfyniad yn parhau mewn grym tra byddwn yn edrych arno eto neu tra bydd apêl yn ei erbyn. Rhaid i'r rhiant dibreswyl barhau i dalu cynhaliaeth plant hyd nes bydd y mater yn cael ei ddatrys.
C. A oes unrhyw benderfyniadau na allaf apelio yn eu herbyn?
A. Oes. Ni all rhieni apelio yn erbyn penderfyniadau gweinyddol ynghylch casglu a gorfodi taliadau cynhaliaeth, fel penderfyniad gennym i ddefnyddio gorchymyn didynnu o enillion gorfodol i gasglu cynhaliaeth heb ei thalu gan riant dibreswyl. Ond, efallai y gallent fynd i'r llys i herio rhai penderfyniadau.
Ni allant apelio yn erbyn penderfyniad am wadu bod yn rhiant i blentyn. Rydym yn defnyddio proses ar wahân i reoli anghydfodau ar hyn.
- Edrychwch ar ein ffeithlen am wadu bod yn rhiant neu darllenwch ein taflen "Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn?" [PDF 184KB]
Gallai ein Huned Apeliadau Canolog hefyd benderfynu peidio â mynd ymlaen ag apêl os nad oes ganddi gyfle rhesymol i lwyddo am ei bod yn seiliedig ar rywbeth sydd wedi'i osod allan yn y gyfraith, fel sut rydym yn gweithio allan cynhaliaeth plant.
C. Ydy'r bobl sy'n gwneud gwaith apêl yn gweithio i'r CSA?
A. Na. Gwrandewir ar apeliadau gan y Tribiwnlys Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCSA), rhan o'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd. Mae'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn rhan o'r Adran Materion Cyfansoddiadol ac mae'n darparu cefnogaeth weinyddol gyffredinol ar gyfer prif dribiwnlysoedd y Llywodraeth ganolig.
Clywir apeliadau gan aelod cyfreithiol gymwys, ac weithiau aelod sydd ag arbenigedd ariannol, fel cyfrifydd. Caiff aelodau'r tribiwnlys eu hapwyntio gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd, nid gennym ni na chan DWP.
C. Faint o amser mae apeliadau'n eu cymryd ?
A.mae hyd at dri cam i'r broses apelio.
Cam 1 - Yn y cam hwn byddwn yn edrych ar yr apêl ac yn naill ai:
- Diwygio'r penderfyniad ein hunain; neu
- Anfon yr apêl i'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i weithredu arni.
Ar hyn o bryd caiff tua hanner pob apêl eu datrys o fewn y CSA yn y cam hwn.
Bydd y cam hwn yn cymryd tua 10 wythnos ar gyfartaledd.
Cam 2 - os yw'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn delio gyda'r apêl, byddant yn ei harchwilio ac yn ein hysbysu o'u penderfyniad o fewn 19 wythnos o anfon yr apêl atynt.
Cam 3 - Unwaith y bydd y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn ein hysbysu o'u penderfyniad, byddwn yn diwygio eich penderfyniad cynhaliaeth plant os bydd angen. Bydd y cam hwn yn cymryd tua wythnos ar gyfartaledd.
C. Oes rhaid i'r CSA ddilyn penderfyniad y tribiwnlys?
A. Oes. Os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn newid y penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn, caiff yr achos ei ddychwelyd atom gyda'u penderfyniad. Bydd hyn yn cynnwys arweiniad (neu gyfarwyddiadau) ar beth i'w wneud i unioni'r penderfyniad. Gallai'r penderfyniad newydd olygu bod swm y gynhaliaeth plant yn newid ac felly bydd taliadau naill ai'n cynyddu neu'n gostwng.
C. Beth fydd yn digwydd os bydd y tribiwnlys yn penderfynu bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir?
A. Os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn penderfynu bod ein penderfyniad gwreiddiol yn gywir, yna bydd ein penderfyniad yn parhau mewn grym.
C. Beth gall pobl wneud os ydynt yn anghytuno gyda phenderfyniad y tribiwnlys?
A. Os gwnaeth y tribiwnlys ddilyn y gweithdrefnau yn gywir a'i bod yn gywir o ran y gyfraith, ni ellir newid ei benderfyniad.
Os bydd rhieni yn anghytuno â phenderfyniad y Tribiwnlys SSCSA, mae dwy ffordd y gallant ofyn iddo gael ei adolygu neu ei newid:
- Gellir rhoi y penderfyniad i'r neilltu os na dderbyniwyd rhai dogfennau neu os na chawsant eu hanfon at rywun yn ymwneud â'r apêl.
- Gallant apelio i'r Comisiynydd Cynnal Plant, a gall y Comisiynydd ddisodli penderfyniad Tribiwnlys SSCSA os yw'n anghywir yn ôl y gyfraith.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [941Kb]
- Darllenwch ein taflen "Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn?" [941Kb]

