Hafan › Amdanom ni › Newyddion a Chyfryngau › Cwestiwn ac ateb › Beth fydd yn digwydd yn y dyfodol?
Cwestiwn ac ateb
Newidiadau i gynnal plant
- Pryd bydd hyn i gyd yn digwydd?
- Beth fydd yn digwydd i fy achos?
- A fydd y CSA yn cau?
- Byddaf eisiau symud i'r cynllun asesu newydd symlach - sut bydd fy achos yn trosglwyddo?
- Rwyf yn hawlio budd-dal ac rwyf eisiau sefydlu trefniant preifat - a gaf i wneud hyn nawr?
- Pryd byddaf yn gallu cadw mwy o'r arian a delir fel cynhaliaeth plant?
- A fyddaf yn gorfod talu i ddefnyddio'r sefydliad newydd?
- A fyddaf yn dal i ddelio â'r CSA?
- A fydd yn effeithio ar sut byddaf yn cael fy nhaliadau?
- A allaf dal wneud cais a sut mae gwneud hyn?
- Beth fydd yn digwydd os bydd fy amgylchiadau'n newid?
- Mae fy nghyn bartner yn dweud nad oes pwynt talu cynhaliaeth cynnal plant nawr. Oes rhaid iddynt dal wneud hyn?
- Mae ar fy nghyn bartner lawer o arian i mi am gynhaliaeth plant - a fydd hyn yn cael ei anghofio o dan y cynlluniau newydd?
- Mae gan fy nghyn bartner asesiad cynhaliaeth dros dro nad ydynt erioed wedi ei dalu dros nifer o flynyddoedd - felly pam eich bod am leihau faint o ôl-ddyledion sy'n rhaid iddynt dalu?
- Mae fy achos dal ar yr 'hen gynllun' - a fydd nawr yn symud i'r cynllun newydd?
- Hoffwn gael mwy o wybodaeth am yr argymhellion yn y Papur Gwyn.
Q. Pryd bydd hyn i gyd yn digwydd?
A. Ni fydd unrhyw o'r newidiadau hyn yn digwydd ar unwaith. Caiff y sefydliad newydd a'r newidiadau i'r rheolau eu cyflwyno mewn camau dros nifer o flynyddoedd.
Dyma amserlen ddisgwyliedig ar gyfer y newidiadau:
2007-2008
Caiff Bil ei gyflwyno i'r Senedd er mwyn diwygio'r system gynhaliaeth plant. Gwneir apwyntiadau allweddol ar sail dros dro yn aros Y Cydsyniad Brenhinol er mwyn sicrhau y bydd darpar aelodau Bwrdd y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth yn gallu cyfrannu at y gwaith darparu fydd ei angen i lansio'r corff newydd. Bydd buddsoddiad yn y Cynllun Gwella Gweithredol yn parhau, gan wella ar berfformiad ar gyfer rhieni sy'n defnyddio'r trefniadau presennol.
2008-2009
Bydd y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth mewn grym gydag awdurdodaeth statudol. Ei flaenoriaethau fydd
- cymryd cyfrifoldeb am weithrediadau presennol yr Asiantaeth Cynnal Plant a chychwyn cael gwasanaethau newydd
- defnyddio'r pwerau newydd ar gyfer gorfodi a chasglu i sicrhau bod mwy o rieni dibreswyl yn talu cynhaliaeth - er mwyn cael mwy o arian i fwy o blant
- gosod gwasanaethau gwybodaeth a chanllawiau newydd i gefnogi rhieni wrth wneud y dewis cywir
- helpu rhieni i wneud dewis drwy gael gwared ar y gofyniad i rieni â gofal ar fudd-daliadau hefyd orfod gwneud cais am gynhaliaeth plant. Hefyd, sicrhau gyda help y Ganolfan Byd Gwaith, bod pob rhiant yn gallu elwa o'r £10 a ddiystyrir at ddibenion budd-daliadau pan delir cynhaliaeth, drwy ymestyn hyn i gynnwys achosion sydd ar y cynllun gwreiddiol .
2009-2010
- Caiff rhieni eu cefnogi i wneud eu dewis eu hunain - caiff yr opsiynau eu hamlinellu ar gyfer cleientiaid presennol, hynny yw gallant wneud trefniadau preifat, neu os bydd y ddau riant yn cytuno gallant barhau gyda'i trefniadau presennol ond wedi'u hategu gan wasanaeth cyfnewid arian syml neu gallant ddod yn gleient i'r system newydd.
2010-2011
- Bydd ceisiadau newydd yn cael eu derbyn o dan y cynllun asesu newydd. Caiff y swm sylweddol uwch a ddiystyrir ar gyfer rhieni ar fudd-daliadau ei gyflwyno a bydd y broses drosglwyddo ar gyfer cleientiaid presennol yn cychwyn. Disgwylir i'r cyfnod trosglwyddo gymryd tua thair blynedd.
2012-2013
- Bydd pob cleient yn dod o dan un set o reolau a reolir gan un corff.
C. Beth fydd yn digwydd i fy achos?
A. Am y tro, ni fydd newid i'ch achos. Rydym eisoes wedi arddangos gwell gwasanaeth drwy ein Cynllun Gwella Gweithredol a byddwn yn parhau i wella ein gwasanaethau.
Byddwn yn eich hysbysu os bydd unrhyw newid i'ch achos.
C. A fydd y CSA yn cau?
A. Bydd y corff newydd yn cymryd cyfrifoldeb am waith y CSA yn dechrau yn 2008. Yn y cyfamser, bydd achosion yn parhau i gael eu prosesu fel arfer.
Byddaf eisiau symud i'r cynllun asesu newydd symlach - sut bydd fy achos yn trosglwyddo?
A. Pan fo rhieni eisiau symud i system y dyfodol, mae'n hanfodol sicrhau cyn lleied o amhariaeth â phosibl ar rieni a pharhau i ddarparu gwasanaeth cyson yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Bydd y corff newydd yn datblygu'r argymhellion manwl ynglŷn â symud achosion presennol ymlaen.
Disgwylir i hyn ddechrau yn 2010-11 ac y bydd yn cymryd tua thair blynedd i'w gwblhau.
rwyf yn hawlio budd-dal ac rwyf eisiau sefydlu trefniant preifat - a allaf wneud hyn nawr?
A. Ddim eto.
Ni fyddwch yn gallu gwneud hyn hyd nes bydd y gyfraith newydd a'r system gwybodaeth a chanllawiau newydd ar waith. Bryd hynny bydd y rhieni â gofal hynny sy'n hawlio budd-dal yn cael y cyfle i symud i'w trefniadau cynhaliaeth eu hunain. Tan hynny bydd y trefniadau presennol yn parhau.
Pryd byddaf yn gallu cadw mwy o'r arian a delir fel cynhaliaeth plant?
A. Yn ystod 2008-09 mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymestyn y £10 a ddiystyrir at ddibenion budd-dal i gynnwys achosion ar y cynllun cynnal plant gwreiddiol fel y gall pob rhiant â gofal sy'n hawlio budd-dal gadw'r £10 per yr wythnos o gynhaliaeth a delir.
O 2010-11 bwriada'r Llywodraeth gynyddu'r swm o gynhaliaeth y gall rhieni ar fudd daliadau ei gadw cyn iddo effeithio ar lefel y budd?daliadau a gânt.
A fyddaf yn gorfod talu i ddefnyddio'r corff newydd?
A. Mewn rhai achosion gallai'r Llywodraeth godi ar rai pobl am ddefnyddio'r sefydliad newydd. Caiff penderfyniadau terfynol am fanylion hyn oll eu gwneud yn nes at yr amser ond ein bwriad presennol yw i godi ffi o'r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau bod yr argymhelliad i rieni dibreswyl gwrdd â'u cyfrifoldebau mewn grym.
A fyddaf yn dal i ddelio â'r CSA?
A. Byddwch, am y tro byddwch yn parhau i ddelio â'r CSA.
Yn 2008-09 bydd y Llywodraeth yn sefydlu'r corff newydd fydd yn cymryd cyfrifoldeb am weithrediadau presennol y CSA, enw'r corff hwn fydd y 'Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth'.
A fydd yn effeithio ar sut y byddaf yn cael fy nhaliadau?
A. Na, nid ar hyn o bryd.
A allaf dal wneud cais a sut mae gwneud hyn?
A. Gallwch, nid yw'r broses o wneud cais wedi newid.
Beth fydd yn digwydd os bydd fy amgylchiadau'n newid?
A. Dylech barhau i adrodd unrhyw newid mewn amgylchiadau yn y ffordd arferol.
Mae fy nghyn bartner yn dweud nad oes pwynt talu cynhaliaeth cynnal plant nawr. Oes rhaid iddynt dal wneud hyn?
A. Oes - yn bendant.
Yn ystod y cyfnod pan fydd y Llywodraeth yn sefydlu'r corff newydd byddwn yn parhau i ganolbwyntio mwy ar gydymffurfio a gorfodi fel rhan o'r gwelliannau i'n gwasanaethau rydym eisoes wedi'u gwneud, ac yn parhau i'w gwneud, fel rhan o'r Cynllun Gwella Gweithredol.
Mae ar fy nghyn bartner lawer o arian i mi am gynhaliaeth plant - a fydd hyn yn cael ei anghofio o dan y cynlluniau newydd?
A.Nid oes unrhyw fwriad i ganiatáu i rieni sy'n gallu talu osgoi eu cyfrifoldebau. Mae'r Llywodraeth yn cyflwyno dulliau gorfodi llawer mwy llym sydd wedi eu hanelu at wneud cryn ostyngiadau i ddyledion presennol.
Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu yn erbyn ceisio cael y pŵer i ddileu unrhyw ddyled sy'n ymddangos fel pe na byddai unrhyw bosibilrwydd o'i chasglu. Ond, mae rhai amgylchiadau cyfyngedig iawn ble gallai fod yn addas dileu dyledion neu ail werthuso rhai dyledion y gor? gyfrifwyd. Pan fo dyled yn daladwy i riant â gofal, dim ond gyda chytundeb y rhiant â gofal y caiff swm llai ei dderbyn.
Mae gan fy nghyn bartner asesiad cynhaliaeth dros dro nad ydynt erioed wedi ei dalu dros nifer o flynyddoedd - felly pam eich bod am leihau faint o ôl-ddyledion sy'n rhaid iddynt dalu?
A. Bwriad asesiadau cynhaliaeth cosb dros dro oedd i annog rhieni dibreswyl i gydweithredu â'r CSA.
Mewn gwirionedd, nid oedd hyn yn cael yr effaith y dymunwyd - roedd llawer o rieni dibreswyl yn parhau i osgoi eu cyfrifoldebau.
Y rheswm ein bod yn ail asesu'r gyfradd yw er mwyn creu ffigwr mwy ymarferol sy'n gwir adlewyrchu'r swm o gynhaliaeth plant a fyddai wedi bod yn ddyledus os byddai'r CSA wedi gallu cwblhau Asesiad Cynhaliaeth Llawn, yn seiliedig ar amgylchiadau'r rhiant dibreswyl. Byddwn yn ail werthuso dyledion Asesiadau Cynhaliaeth Cosb Dros Dro fel eu bod yn adlewyrchu gallu rhieni i dalu yn well. Bydd hyn yn rhoi sail gryfach i'r CSA a'r Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth allu adennill y dyledion hynny a chael arian yn llifo i rieni â gofal.
Mae fy achos dal ar yr 'hen gynllun' - a fydd nawr yn symud i'r cynllun newydd?
A. Na.
Rydym wastad wedi dweud na allwn ystyried trosglwyddo'r rhan helaeth o achosion yr 'hen gynllun' i'r cynllun presennol y cyflwynwyd yn 2003 hyd nes bod y cynllun hwnnw'n gweithio'n llwyddiannus.
Bydd y Llywodraeth yn ceisio sefydlu'r corff newydd yn 2008-09 a disgwyliwn y byddwn yn dechrau symud achosion drosodd i'r cynllun newydd yn 2010-11. Disgwylir i'r broses drosglwyddo gymryd tua thair blynedd.
Bydd y corff newydd yn datblygu'r argymhellion manwl ar gyfer symud achosion presennol ymlaen a byddwn yn cadw cleientiaid yn hysbys fel y caiff penderfyniadau eu gwneud.
Hoffwn gael mwy o wybodaeth am yr argymhellion yn y Papur Gwyn.
A. Mae'r Papur Gwyn 'System newydd o gynhaliaeth plant' ar gael ar wefan DWP.
Gwybodaeth berthnasol
- Y Papur Gwyn Gellir gweld 'System newydd o gynhaliaeth plant' ar wefan DWP.
- Darllenwch ein taflen "Pam bod yr Asiantaeth Cynnal Plant yn newid fy nghynhaliaeth plant a sut y bydd yn wahanol?" [142Kb]

