Cwyno am ein gwasanaeth
- Beth ddylai rhieni ei wneud os nad ydynt yn hapus am y gwasanaeth a gânt gan y CSA?
- All rhieni gwyno am sut caiff cynhaliaeth ei gweithio allan, neu sut y gofynnir iddynt dalu?
- Faint o gwynion sydd wedi bod am y CSA dros y flwyddyn ddiwethaf?
- A fydd rhieni'n cael iawndal os yw'r CSA wedi gwneud camgymeriad?
- Faint o bobl sydd wedi cael iawndal?
- Os yw rhywun yn anhapus am sut y deliwyd â'u cwyn beth allant ei wneud?
C. Beth ddylai rhieni ei wneud os nad ydynt yn hapus am y gwasanaeth a gânt gan y CSA?
A. I ddechrau, dylent gysylltu â'r bobl sy'n delio â'u hachos, naill ai drwy ffonio neu'n ysgrifenedig. Mae eu rhifau cyswllt ar ein llythyrau atynt. Gallant hefyd e-bostio eu cwyn atom drwy ddefnyddio'r ffurflen gwyno ar-lein yn.
- Mae ein taflen " Sut gallaf gwyno am y gwasanaeth a gaf gan yr Asiantaeth Cynnal Plant? " [PDF 158KB]
yn egluro mwy am y broses hon.
C. All rhieni gwyno am sut caiff cynhaliaeth ei gweithio allan, neu sut y gofynnir iddynt dalu?
A.Os oes gan y naill riant wybodaeth, y credant fyddai'n effeithio ar swm eu cynhaliaeth plant, gallant ofyn i ni edrych eto ar y penderfyniad ar unrhyw adeg. Nid yw'n bosibl apelio yn erbyn penderfyniadau gweinyddol am gasglu a gorfodi taliadau cynhaliaeth plant.
- Mae mwy o wybodaeth am hyn yn ein ffeithlen am apelio'n erbyn ein penderfyniadau, neu darllenwch ein taflen
" Sut gallaf apelio'n erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant? " [PDF 202KB]

XC. Faint o gwynion sydd wedi bod am y CSA dros y flwyddyn ddiwethaf?
A.Rydym yn ymroddedig i drin ein cleientiaid yn deg a chynnig gwasanaeth iddynt sydd yn cwrdd â'u hanghenion.
Hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2006 derbyniwyd 49,000 o gwynion gennym. Mae hyn yn welliant o 10% ar y flwyddyn flaenorol, pan derbyniwyd 54,000 o gwynion.
Anfonir copi o'n Siarter Cleientiaid at bawb sy'n gwneud cais i ni weithio allan cynhaliaeth plant, ac mae'n cynnwys set o safonau gofynnol yr anelwn at eu cwrdd wrth ddelio â'ch achos.
C. A fydd rhieni'n cael iawndal os yw'r CSA wedi gwneud camgymeriad?
A.nid oes unrhyw hawl cyfreithiol i gael taliad iawndal. Pan fo raid i ni benderfynu y dylid talu cynhaliaeth defnyddiwn set o reolau y mae Trysorlys EM wedi cytuno arnynt gyda'r Swyddfa Archwilio Gwladol.
Cam 1 - Yn y cam hwn byddwn yn edrych ar yr apêl ac yn naill ai:
- Diwygio'r penderfyniad ein hunain; neu
- Cyflwyno'r apêl i'r Gwasanaeth Tribiwnlys i weithredu arni.
Os byddwn wedi achosi oedi hir iawn, wedi gwneud gwall difrifol neu wedi rhoi gwybodaeth anghywir, efallai y gallwn dalu iawndal i wneud i fyny am unrhyw golled.
Gallwn hefyd wneud taliad bychan os yw ein camau neu ddiffyg gweithredu wedi achosi:
- anghyfleuster difrifol oherwydd sawl camgymeriad, neu
- cryn embaras neu gywilydd.
Byddwn hefyd yn ystyried unrhyw dystiolaeth sy'n dangos bod iechyd rhywun wedi dioddef o ganlyniad.
Ceir mwy o wybodaeth am iawndal yn y Canllaw Iawndal Ariannol am Gamweinyddiaeth, sydd ar gael yn adran gyhoeddiadau gwefan DWP
C. Faint o bobl sydd wedi cael iawndal?
A.Ym mlwyddyn ariannol 2005/06 talodd y CSA tua £4m (£3,853,000) mewn iawndal. Roedd hyn ar gyfer 11,515 o achosion unigol.
C. Os yw rhywun yn anhapus am sut y deliwyd â'u cwyn beth allant ei wneud?
A. Ar ôl cael ymateb gan y Tîm Adolygu Cwynion, os bydd cleient yn dal i deimlo nad ydym wedi delio â'u cwyn yn briodol, gallant ysgrifennu at yr Archwilydd Achosion Annibynnol.
Bydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn edrych ar gwynion amdanom gan bobl nad ydynt yn fodlon â sut gwnaethom drin eu hachos. Mae eu gwasanaeth am ddim ac nid ydynt yn rhan o'r Asiantaeth Cynnal Plant.
Cyn y bydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn derbyn achos, rhaid iddynt fod yn fodlon ein bod wedi cael y cyfle i ddelio â'r gŵyn. Byddant yn edrych ar y gŵyn cyhyd ag y bydd y cleient yn cysylltu â hwy o fewn chwe mis i dderbyn ymateb terfynol gan ein Tîm Adolygu Cwynion.
- Mae ein taflen " Sut gallaf gwyno am yr Asiantaeth Cynnal Plant?" [PDF 158KB]
yn egluro mwy am y broses hon. - Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr Archwilydd Achosion Annibynnol ar eu gwefan.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf gwyno am y gwasanaeth a gaf gan yr Asiantaeth Cynnal Plant?" [128Kb]
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [941Kb]

