Gorfodi
- Faint o rieni sydd ddim yn talu'r gynhaliaeth plant sy'n ddyledus ganddynt?
- Faint ydych wedi ei gasglu drwy gamau gorfodi cyfreithiol?
- Pa ganlyniadau mae camau gorfodi wedi'u cael mewn cymhariaeth/dros y flwyddyn ddiwethaf?
- Ydy'r Asiantaeth Cynnal Plant yn gweithio gyda beilïaid?
- Beth ydych yn ei wneud i ddod o hyd i rieni sy'n osgoi'r CSA yn fwriadol?
- Beth ydych yn ei wneud i stopio pobl rhag rhoi gwybodaeth ffug, fel dweud celwydd am eu henw neu gyfeiriad?
- Beth mae'r CSA yn ei wneud yn fewnol er mwyn gwella pethau?
- Ydy'r CSA yn mynnu bod ôl-ddyledion yn cael eu 'talu ar unwaith'?
C. Faint o rieni sydd ddim yn talu'r gynhaliaeth plant sy'n ddyledus ganddynt?
A. Mae tua 33% o rieni dibreswyl yn parhau i beidio â chydweithredu. Golyga hyn mai dim ond mewn 334,400 o achosion allan o'r 496,000 ble dylai cynhaliaeth gael ei thalu yr ydym wedi gallu casglu cynhaliaeth. (Ar hyn o bryd mae gennym 162,200 o achosion ble nad oes cydweithrediad).
C. Faint ydych wedi ei gasglu drwy gamau gorfodi cyfreithiol?
A. Rhwng mis Ebrill 2006 a mis Rhagfyr 2006 gwnaethom gasglu £13.53 miliwn, cynnydd o 33% ar y llynedd. Yn gyfan gwbl yn 2005/06 casglwyd £13.52 miliwn ac yn 2004/05 roedd y ffigwr hwn yn £7.97 miliwn. (Nid yw'r ffigwr hwn yn cynnwys y taliadau cynhaliaeth reolaidd sy'n cael eu talu yn dilyn camau gorfodi.)
C. Pa ganlyniadau mae camau gorfodi wedi'u cael mewn cymhariaeth/dros y flwyddyn ddiwethaf?
A. Mae'r cyfanswm o gamau gorfodi yn parhau i gynyddu. Mae'r ffigyrau ar gyfer 2005 i 2006 yn dangos cynnydd o 61% ar y flwyddyn ariannol flaenorol. (Tua 27,440 o gamau gorfodi hyd at fis Mawrth 2006, i'w gymharu â 17,025 hyd at fis Mawrth 2005.)
- Mae 160,000 o rieni dibreswyl yn cael eu cynhaliaeth plant wedi'i didynnu o'u cyflog
- Mae 23,000 o achosion rhieni dibreswyl wedi cael eu dilyn ymlaen gan gasglwyr dyledion.
- Mae 13,000 rhiant dibreswyl wedi cael eu cyflwyno â gwŷs i fynd i'r llys
- Mae 400 o rieni dibreswyl wedi cael eu dedfryd ddi oed neu ataliedig i'r carchar
- Carcharwyd 35 o bobl dros y 12 mis hyd at fis Hydref 2006 (i fyny o 5 yn ystod 2004/5 yn gyfan gwbl)
- Gwnaed 380 dedfryd ataliedig i'r carchar rhwng mis Tachwedd 2005 a mis Hydref 2006 (i fyny o 220 yn 2004/05 yn gyfan gwbl)
- Dyfarnwyd 1,935 o Ddyfarniadau Llys Sirol (CCJ) rhwng mis Tachwedd 2005 a mis Hydref 2006.
- Dyfarnwyd 2,015 o orchmynion dyled trydydd parti rhwng mis Tachwedd 2005 a mis Hydref 2006.
- Ar gyfer y flwyddyn ariannol 06/07 (hyd at fis Rhagfyr 2006) rydym wedi casglu £123miliwn drwy gymryd yr arian yn uniongyrchol o enillion y rhiant. Yn y flwyddyn ariannol 2005/06 gwnaethom gasglu £171miliwn drwy gymryd cynhaliaeth plant yn y ffordd hon.
- Rhwng mis Tachwedd 2005 a mis Hydref 2006 1dyfarnwyd 2,930 o orchmynion atebolrwydd yng Nghymru a Lloegr a dyfarnwyd 770 yn Yr Alban. (Dyma ble mae llys yn cydnabod yn gyfreithiol bod dyled i'w thalu.)
Mae'r adran am ein ymgyrch gorfodi yn cynnwys mwy o esiamplau o hyn
C. Ydy'r Asiantaeth Cynnal Plant yn gweithio gyda beilïaid?
A. Ers diwedd yr haf yn 2006 mae'r Asiantaeth Cynnal Plant hefyd wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau casglu dyled preifat er mwyn adennill mwy na £68 miliwn o hen ddyledion. Mae defnyddio a bygwth defnyddio asiantaethau casglu dyled wedi arwain at gael £1.5miliwn mewn cynhaliaeth heb ei thalu. Rydym wedi trosglwyddo mwy na 23,000 o achosion drosodd i asiantaethau casglu dyled.
Cyn ein bod yn cyfeirio achosion at yr asiantaethau casglu dyled byddwn yn anfon llythyrau rhybudd saith diwrnod at ein cleientiaid i roi gwybod iddynt beth sy'n digwydd ac i ofyn iddynt dalu. O ganlyniad i'r llythyrau hyn casglwyd £500,000 yn ychwanegol gennym erbyn diwedd mis Rhagfyr 2006.
C. Beth ydych yn ei wneud i ddod o hyd i rieni sy'n osgoi'r CSA yn fwriadol?
A. Yn anffodus mae rhai rhieni sy'n mynd allan o'u ffordd i osgoi talu'r hyn sy'n ddyledus ar gyfer eu plant.
Mae'r Asiantaeth yn gwneud mwy o ddefnydd o wybodaeth gan Gyllid a Thollau EM ac asiantaethau cyfeirio credyd er mwyn olrhain y rhieni hyn. Mewn achosion arbennig o anodd, rydym nawr yn cyfeirio achosion at asiantaethau olrhain arbennig yn y sector preifat.
Ers mis Hydref 2006, mae 8,000 o weithwyr y CSA wedi gallu defnyddio data gan asiantaethau cyfeirio credyd i'w helpu i olrhain rhieni dibreswyl nad oeddem wedi gallu dod o hyd iddynt o'r blaen drwy ffyrdd eraill. Hyd yma mae 44,000 achos llwyddiannus wedi'u gwneud ar y gronfa ddata.
Q. Beth ydych yn ei wneud i stopio pobl rhag rhoi gwybodaeth ffug, fel dweud celwydd am eu henw neu gyfeiriad?
A. Mae'n drosedd i berson beidio â darparu gwybodaeth neu ddarparu gwybodaeth y gwyddant sy'n ffug, pan ofynnwn amdani. Os bydd rhywun yn methu â rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ni, neu os byddant yn rhoi gwybodaeth y gwyddant sy'n ffug, gallant gael dirwy o hyd at £1,000.
Os na fydd rhiant dibreswyl yn ein darparu gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnom gallwn gymhwyso 'penderfyniad cynhaliaeth ddiffyg' wedi'i osod ar lefel sy'n uwch na'r cyfrifiad cynhaliaeth wythnosol ar gyfartaledd. Byddwn yn ceisio gorfodi talu'r atebolrwydd hwn hyd nes bydd y rhiant dibreswyl yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol ac y gellir gwneud cyfrifiad mwy cywir.
C. Beth mae'r CSA yn ei wneud yn fewnol er mwyn gwella pethau?
A. Rydym yn cynyddu ein camau gorfodi fel rhan o'n Cynllun Gwella Gweithredol. Mae'r ffigyrau ar gyfer y nifer o gamau gorfodi yn ystod 2005 i 2006 yn dangos cynnydd o 61% ar y flwyddyn ariannol flaenorol.
Rydym yn cynyddu'r nifer o bobl a gyflogir ar waith gorfodi bedwar gwaith. Nawr rydym wedi sefydlu timau Dyled Arbennig a Gorfodi Cyfreithiol ac mae 300 o bobl ychwanegol wedi cael eu rhoi i weithio ar gyfeirio achosion i asiantaethau casglu dyled.
Rydym wedi sicrhau newidiadau i'r gyfraith sy'n golygu y gallwn nawr gasglu hyd at 40% o incwm net rhieni dibreswyl.
C. Ydy'r CSA yn mynnu bod ôl-ddyledion yn cael eu 'talu ar unwaith'?
A. Mae'r camau rydym yn eu cymryd yn ddibynnol ar bob achos unigol a bydd rhieni yn cael eu hysbysu o unrhyw gamau a gymerir. Gofynnir iddynt gysylltu â ni cyn gynted â phosibl i drafod eu sefyllfa a sut y gallant dalu'r arian yn ôl.
Efallai y gallwn ystyried amgylchiadau'r rhiant dibreswyl ac y gallwn gynnig nifer o opsiynau talu. Os gwrthodir y rhain neu os nad yw'r rhiant yn cadw at y trefniadau cytunedig byddwn yn cymryd camau pellach.
Gwybodaeth berthnasol
- Pwerau Gorfodi
- Darllenwch ein taflen "Pa gamau all y CSA eu cymryd os na fydd rhieni'n talu?" [941Kb]

