HafanAmdanom niNewyddion a ChyfryngauCwestiwn ac ateb › Trosglwyddo achosion yr hen gynllun

Cwestiwn ac ateb

Trosglwyddo achosion yr hen gynllun



C. Pryd cyflwynwyd y cynllun cynhaliaeth plant presennol?

A. Cyflwynwyd y system cynhaliaeth plant presennol ar 3 Mawrth 2003.


C. Faint o achosion sydd ar bob cynllun cynhaliaeth plant?

A. Mae 1.4 o achosion cynhaliaeth plant, ac mae 584,500 ohonynt ar y cynllun presennol ac 805,700 (58%) ar yr hen gynllun.

Y llynedd roedd 481,100 o achosion ar y cynllun presennol ac 878,800 ar yr hen gynllun (65%).


C. All cleientiaid ofyn am i'w hachos gael ei symud i'r cynllun cynhaliaeth newydd?

A. Na. Nid yw'n bosibl trosglwyddo i'r cynllun newydd, yr unig reswm pryd gall bobl drosglwyddo yw os ydynt hefyd yn ymwneud ag achos newydd.

Er enghraifft, os yw mam eisoes yn cael cynhaliaeth plant ar gyfer un plentyn, a'i bod yn gwneud cais newydd (ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003) ar gyfer plentyn arall sydd â thad gwahanol, byddwn yn symud yr achos cynhaliaeth plant cyntaf fel bod y ddau achos wedi'u gosod ar y cynllun cyfredol.

Enghraifft arall yw y gallai dyn gydag achos CSA gael plentyn arall gyda merch arall sydd wedyn yn agor achos â'r CSA hefyd. Byddai hyn yn newid yr achos newydd gan ei fod wedi'i gysylltu â chais newydd.

(Enghraifft arall, llai cyffredin, yw os bydd rhiant â gofal yn gofyn i ni gau eu hachos, ac yna eu bod yn ail wneud cais ar ôl cyfnod o 13 wythnos.)


C. A fydd rhiant dibreswyl yn talu llai os yw eu hachos ar y cynllun presennol?

A. mae'r swm o gynhaliaeth plant sy'n rhaid i riant dibreswyl ei dalu yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau unigol. Os bydd achos yn symud i'r cynllun presennol gallai swm y gynhaliaeth plant fod yn fwy neu'n llai.


C. Sut bydd rhieni'n gwybod os bydd eu hachos yn newid?

A. Bydd cleientiaid yn cael eu hysbysu o unrhyw newid fydd yn effeithio ar eu hachos.


C. Os bydd achos yn newid, a fydd rhieni yn gorfod llenwi'r holl ffurflenni eto?

A. Ni fyddwn yn gofyn i gleientiaid am fwy o wybodaeth os na fydd rhaid, a byddwn yn gweithio allan cynhaliaeth yn seiliedig ar y wybodaeth sydd gennym. Ond, os yw eu hamgylchiadau wedi newid ers y cyfrifiad blaenorol, dylent ddweud wrthym fel y gallwn seilio'r cyfrifiad newydd ar y wybodaeth fwyaf diweddar bosibl.


C. Faint o achosion sydd wedi cael eu trosglwyddo o'r hen gynllun i'r cynllun presennol?

A. Ers mis Mawrth 2003 mae tua 55,300 o achosion wedi cael eu trosglwyddo o'r hen gynllun i'r cynllun newydd.


C. Pryd bydd achosion yr hen gynllun yn symud i system newydd o gynhaliaeth plant?

A. Bydd y ffordd y cyfrifir cynhaliaeth yn newid pan fydd y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth (C-MEC) yn cymryd gwaith y CSA drosodd. Bydd achosion presennol yn symud oddeutu 2010-11, ond bydd rhiant yn cael y dewis i ba un a ydynt eisiau parhau i ddefnyddio gwasanaethau'r llywodraeth neu ddod i gytundeb eu hunain.


C. Beth fydd y broses gyfrifo newydd?

A. Yn y dyfodol bydd y broses asesu cynhaliaeth yn cael ei symleiddio'n arw er mwyn creu proses cyflymach, cywirach a mwy eglur. Bwriedir defnyddio'r wybodaeth ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf fel sail cyfrifo atebolrwydd cynhaliaeth plant, oni bai fod y wybodaeth gyfredol o leiaf 25 y cant yn wahanol. Byddwn yn cael y wybodaeth hon yn uniongyrchol gan Gyllid a Thollau EM a byddwn yn lleihau'r amser a gymerir i wneud cyfrifiad cynhaliaeth.