Hafan › Amdanom ni › Newyddion a Chyfryngau › Cwestiwn ac ateb › Rhieni sydd ar fudd-daliadau
Cwestiwn ac ateb
Rhieni sydd ar fudd-daliadau
- Ydy rhieni sy'n hawlio budd-daliadau yn cael arian gan y CSA?
- Ydy'r CSA yn cadw unrhyw arian a delir i rieni sydd ar fudd-daliadau?
- Faint o rieni sydd ag achosion gyda'r CSA sy'n cael budd-daliadau?
- Ydy rhieni sydd ag achosion ar yr hen gynllun yn colli allan ar y Premiwm Cynhaliaeth Plant?
C. Ydy rhieni sy'n hawlio budd-daliadau yn cael arian gan y CSA?
A. Rydym wedi cyflwyno mesur i sicrhau y bydd rhieni â gofal, sy'n cael budd-daliadau ac sydd ag achosion ar y system gynhaliaeth plant bresennol, yn cael 'Premiwm Cynhaliaeth Plant'. Gall hyn fod yn hyd at £10 yr wythnos o unrhyw gynhaliaeth a delir i ni.
Ym mis Rhagfyr 2006, derbyniwyd y Premiwm Cynhaliaeth Plant gan dros 51,000 o rieni â gofal ar fudd-daliadau, sy'n golygu dros £1.7 miliwn y mis. Mae hyn yn welliant o dros 8,000 ar fis Mawrth 2006, sef dros £150,000 yn fwy o arian bob mis i'r teuluoedd tlotaf.
Erbyn diwedd 2008 rydym yn bwriadau ymestyn ein rheolau fel y gall pob rhiant â gofal sy'n hawlio budd-dal, gan gynnwys y rhai hynny ag achosion ar yr hen gynllun, gadw'r £10 cyntaf bob wythnos o'u cynhaliaeth pan gaiff ei thalu.
O 2010-2011 bwriadwn gynyddu'r swm o gynhaliaeth y gall rhieni â gofal ei gadw yn sylweddol, cyn iddo effeithio ar eu budd-daliadau.
C. Ydy'r CSA yn cadw unrhyw arian a delir i rieni sydd ar fudd-daliadau?
A. Caiff unrhyw arian dros y £10 ei dalu i'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud i fyny am yr arian a delir i'r person fel budd-daliadau, ni chaiff ei gadw gan y CSA.
Q. Faint o rieni sydd ag achosion gyda'r CSA sy'n cael budd-daliadau?
A. Mewn 269,700 o achosion mae'r rhiant â gofal yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.
Mewn 142,700 o achosion mae'r rhiant dibreswyl yn cael budd-daliadau.
Mewn 151,200 o achosion mae'r ddau riant yn cael budd-daliadau.
Q. Ydy rhieni sydd ag achosion ar yr hen gynllun yn colli allan ar y Premiwm Cynhaliaeth Plant?
A. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi datgan y bydd y £10 a ddiystyrir at y diben hwn yn cael ei ymestyn i gynnwys pob achos o dan yr hen gynllun yn 2008/2009, yn dilyn newidiadau i systemau technoleg gwybodaeth a phrosesau'r Asiantaeth.

