Casglu a thalu cynhaliaeth plant
- Faint o arian gasglodd y CSA yn y flwyddyn ddiwethaf?
- At faint o blant aeth hyn?
- Ar gyfartaledd, beth yw'r swm a gesglir bob mis gan y CSA?
- Faint mae'r CSA yn ei gasglu drwy gymryd arian yn uniongyrchol o enillion rhieni?
- Sut gall rhieni dalu eu cynhaliaeth plant?
- Oes yn rhaid i rieni fynd drwy'r CSA?
C. Faint o arian gasglodd y CSA yn y flwyddyn ddiwethaf?
A. Dros y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2006 casglwyd £654 miliwn.
Talwyd £251 miliwn yn ychwanegol trwy Gynhaliaeth Uniongyrchol (ble proseswyd cais am gynhaliaeth plant a bod y rhiant dibreswyl yn talu'n uniongyrchol i'r rhiant â gofal.)
Mae hyn yn gynnydd o bron i £50 miliwn dros y cyfnod 12 mis blaenorol (mis Mawrth 2005 i fis Mawrth 2006, pryd y casglwyd £594m.)
C. At faint o blant aeth hyn?
A. 625,000 o blant (sef 457,400 o achosion)
C. Ar gyfartaledd, beth yw'r swm a gesglir bob mis gan y CSA?
A. £75 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o tua 10% ers mis Mawrth 2006, pryd y casglwyd £68 miliwn.
C. Faint mae'r CSA yn ei gasglu drwy gymryd arian yn uniongyrchol o enillion rhieni?
A. Yn ystod blwyddyn ariannol 2005/06 casglwyd £171 miliwn. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2006/2007 (hyd at fis Rhagfyr 2006) casglwyd £123 miliwn trwy'r dull hwn.
Didynnir cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o enillion 160,000 o rieni dibreswyl.
C. Sut gall rhieni dalu eu cynhaliaeth plant?
A. Mae sawl ffordd i dalu cynhaliaeth plant.
Gall rhieni dalu drwy:
- debyd uniongyrchol i'r CSA
- archeb sefydlog, neu
- cyflogwyr yn cymryd taliadau cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o enillion.
Os ydynt yn cael budd-daliadau, pensiwn neu Bensiwn Rhyfel, fel arfer byddwn yn cymryd cynhaliaeth yn uniongyrchol o'u budd-dal neu eu pensiwn.
- Mae mwy o wybodaeth am hyn yn ein taflen " Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant?" [PDF 205KB]

C. Oes yn rhaid i rieni fynd drwy'r CSA?
A. Na. Os gall rhieni ddod i gytundeb, ac nad ydynt yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, gallant dalu cynhaliaeth plant heb ymwneud â ni.
- mae mwy o wybodaeth am hyn yn ein taflen " Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant?" [PDF 205KB]
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant?" [941Kb]

