Pobl
- Faint o bobl a gyflogir gan y CSA?
- Ar gyfartaledd, faint o ddyddiau a gollir oherwydd salwch?
- Os oes llawer o bobl yn gadael y CSA, sut gallwch gyflawni'r holl welliannau hyn sydd wedi eu haddo?
- A yw'n wir eich bod yn anfon y gwaith ar achosion clerigol allan i gwmni arall?
- A fydd anfon eich gwaith allan yn arwain at golli swyddi?
- Mae llawer o rieni yn dweud na allant gael drwodd i'r CSA dros y ffôn - beth ydych yn ei wneud am hyn?
C. Faint o bobl a gyflogir gan y CSA?
A.Erbyn diwedd mis Hydref 2006, roedd y CSA yn cyflogi 950 yn fwy o bobl. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi 11,600 sydd yn gynnydd ar 10,700 flwyddyn yn ôl.
Cyflogir tua 8,000 o bobl mewn swyddi sy'n ymwneud â gweithio ar achosion ein cleientiaid. Rydym yn symud mwy o bobl i'r math hwn o waith, ac mae tua 500 o bobl wedi symud yn barod, a bwriadwn symud 800 arall.
C. Ar gyfartaledd, faint o ddyddiau a gollir oherwydd salwch?
A. Yn y 12 mis hyd at fis Tachwedd 2006 roedd absenoldeb oherwydd salwch yn 12.3 diwrnod ar gyfartaledd, gostyngiad ar 13.0 diwrnod yn ystod y 12 mis hyd at fis Tachwedd 2005.
C. Os oes llawer o bobl yn gadael y CSA, sut gallwch gyflawni'r holl welliannau hyn sydd wedi eu haddo?
A. Mae'r CSA yn cyflogi mwy o bobl i gyflawni'r Cynllun Gwella Gweithredol, ac mae ganddi gyfraddau is o golli staff ac o absenoldeb oherwydd salwch i'w gymharu â 12 mis yn ôl.
Roedd ein cyfradd colli staff yn 15% yn ystod y flwyddyn yn diweddu ym mis Hydref 2006, gostyngiad ar 16% flwyddyn yn ddiweddarach. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr wnaeth adael y CSA i weithio o fewn DWP, yn ogystal â'r rhai hynny aeth i weithio tu allan i'r adran.
C. A yw'n wir eich bod yn anfon y gwaith ar achosion clerigol allan i gwmni arall?
A. Mae'r gwaith o reoli ein baich gwaith ar achosion clerigol, sef achosion na ellir eu symud ymlaen ar y system gyfrifiadurol, wedi cael ei roi allan drwy gontract. Mae Vertex, sef y cwmni trydydd parti sydd wedi cymryd y gwaith hwn, yn gweithio ar 25,000 o achosion yn Bolton. Hyd yn hyn, maent wedi casglu a thalu dros £7.5 miliwn mewn cynhaliaeth.
C. A fydd anfon eich gwaith allan yn arwain at golli swyddi?
A. Ni fydd anfon gwaith allan fel hyn yn arwain at golli unrhyw swyddi, ond mae wedi rhyddhau mwy o bobl i weithio ar achosion eraill er mwyn helpu mwy o blant. Mae wedi arwain at symud 1,700 o'n pobl i ganolbwyntio ar achosion cleientiaid. Rydym wedi recriwtio dros 800 o bobl ychwanegol ers mis Rhagfyr 2005, sydd wedi cynyddu'r nifer o bobl a gyflogir gan y CSA i fwy nag 11,600 o bobl ym mis Tachwedd 2006.
C. Mae llawer o rieni yn dweud na allant gael drwodd i'r CSA dros y ffôn - beth ydych yn ei wneud am hyn?
A. Rydym wedi gweld gwelliant sylweddol a pharhaol ers 2004/05, ac rydym erbyn hyn yn rhagori'n hawdd ar safonau'r Asiantaeth a'r Adran o ran amseroedd aros a'r ganran o alwadau yr atebir.
Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2006 dangosodd y ffigyrau perfformiad ar gyfer y flwyddyn hyd hynny ein bod wedi ateb 97% o'r galwadau a wnaed i'n gweithwyr. Ar gyfartaledd, yr amser aros yw 32 eiliad (achosion y cynllun presennol) neu 16 eiliad (achosion yr hen gynllun).

