Rhannu gofal
- Ydy'r CSA yn cymryd adegau pan fydd y plant yn aros gyda'r rhiant nad ydynt yn byw gyda hwy fel arfer i ystyriaeth?
- Beth fydd yn digwydd os bydd y plentyn yn treulio amser cyfartal gyda'r ddau riant?
C. Ydy'r CSA yn cymryd adegau pan fydd y plant yn aros gyda'r rhiant nad ydynt yn byw gyda hwy fel arfer i ystyriaeth?
A. Ydy. Mae'r CSA yn ystyried 'rhannu gofal' pan yn cyfrifo cynhaliaeth plant. Byddwn yn gostwng y swm yn dibynnu ar y nifer o nosweithiau mae'r plentyn yn aros gyda phob rhiant.
Ar gyfer achosion ar y cynllun cynhaliaeth presennol, byddwn yn gostwng swm y gynhaliaeth un rhan o saith ar gyfer pob noson o'r wythnos y bydd y plentyn yn aros gyda'r rhiant dibreswyl.
- Mae gan ein taflen Eich asesiad cynhaliaeth plant a help i gwrdd ag amgylchiadau eithriadol
[PDF 76KB]
yn rhoi mwy o wybodaeth am rannu gofal o dan yr hen gynllun.
C. Beth fydd yn digwydd os bydd y plentyn yn treulio amser cyfartal gyda'r ddau riant?
A. Mewn achosion ar y cynllun presennol, os bydd y plentyn yn treulio 175 noson gyda'r ddau riant byddwn yn haneru swm y gynhaliaeth plant. Yna byddwn yn didynnu £7 arall.
Os rhennir y gofal yn gwbl gyfartal bydd cynhaliaeth plant yn daladwy i'r rhiant sy'n hawlio Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn. Yn yr achosion hyn byddwn yn annog rhieni i ddod i gytundeb ariannol eu hunain yn ogystal â'n hasesiad ni.
- Mae mwy o wybodaeth am hyn yn ein taflen Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan [PDF 232KB]
.
Gwybodaeth berthnasol
- Lawr-lwythwch ein taflen Eich asesiad cynhaliaeth plant a help i gwrdd ag amgylchiadau eithriadol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

