HafanAmdanon niBeth mae'r CSA yn ei wneud › Symud rhwng y cynlluniau

Symud o'r 'hen' gynllun i'r cynllun 'presennol'

Os oedd gan riant asesiad cynhaliaeth plant a wnaed cyn mis Mawrth 2003, gellir cael ein holl daflenni am sut y gweithiwyd eu cynhaliaeth allan yn ein hadran cyhoeddiadau. Yr 'hen gynllun' yw'r enw a roddwn ar y cynllun oedd mewn grym cyn Mawrth 2003.

O 3 Mawrth 2003 ymlaen, newidiodd y ffordd rydym yn gweithio allan ceisiadau newydd am gynhaliaeth plant i wneud y broses yn haws i'w rheoli, haws i'w deall ac yn fwy addas i anghenion rhieni. Y 'cynllun presennol' yw'r enw a roddwn ar y cynllun hwn.

Ni fydd y cynllun presennol yn newid:

  • pwy all gael cynhaliaeth plant
  • sut dylai cynhaliaeth plant gael ei thalu, na
  • pa bwerau sydd gennym i orfodi taliadau.

Os bydd achos sydd wedi ei sefydlu ar yr hen gynllun yn dod yn gysylltiedig â chais cynhaliaeth plant newydd a wnaed ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003, mae'n rhaid i ni symud yr achos hwnnw i'r cynllun presennol. Dim ond o dan yr amgylchiadau hyn y gellir trosglwyddo achos o'r hen gynllun i'r cynllun presennol.

Sut all achos ddod 'ynghlwm'?

Dim ond pan fydd cais newydd i drefnu cynhaliaeth plant trwom ni yn effeitho ar riant â gofal neu riant dibreswyl sy'n ymwneud ag achos ar yr hen gynllun y bydd achosion yn dod ynghlwm. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r un rheolau ar gyfer gweithio allan cynhaliaeth ar gyfer y plant sydd mewn achosion sydd ynghlwm, felly mae'n rhaid i ni symud achosion yr hen gynllun i'r cynllun presennol.

Er enghraifft, fe wnawn symud eich achos i'r cynllun presennol os:

  • ydych yn riant â gofal sydd eisoes yn derbyn cynhaliaeth plant ar gyfer un plentyn, ac
  • rydych wedi gwneud cais newydd ar gyfer plentyn ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003, a
  • bod gan y plentyn hwnnw riant dibreswyl gwahanol i'r plentyn rydych eisoes yn derbyn cynhaliaeth plant ar ei gyfer.

Byddwn yn cysylltu â'r ddau riant i ddweud wrthynt ein bod yn symud eu hachos i'r cynllun presennol a byddwn yn dechrau gweithio allan y swm diwygiedig o gynhaliaeth plant.

Cyn belled â phosibl, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym yn barod i weithio allan y swm newydd o gynhaliaeth plant. Fodd bynnag, gallai newid fod wedi bod i amgylchiadau'r naill riant ers y tro diwethaf i ni weithio allan cynhaliaeth plant ar eu hachos, fel incwm y rhiant dibreswyl yn newid. Felly, os bydd amgylchiadau'r naill riant wedi newid byddwn angen gwybodaeth ganddynt. Mae'r newidiadau y dylent ddweud wrthym amdanynt yn cynnwys:

  • incwm wythnosol y rhiant dibreswyl
  • y nifer o blant sy'n byw gyda'r rhiant â gofal ac sy'n rhaid i'r rhiant dibreswyl dalu cynhaliaeth plant ar eu cyfer
  • y nifer o blant sy'n byw gyda'r rhiant dibreswyl y maent hwy neu eu partner yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer (taliad rheolaidd a wneir i unrhyw un sy'n magu plant) neu
  • y nifer o nosweithiau mae plentyn yn aros dros nos gyda'r rhiant dibreswyl yn rheolaidd.
  • os bydd y rhiant dibreswyl yn
    • dechrau neu gorffen gweithio i gyflogwr
    • newid swydd
    • mynd yn hunangyflogedig
    • mynd yn ddiwaith neu
    • yn dechrau gweithio ar ôl bod yn ddi-waith.

Unwaith y bydd gennym yr holl wybodaeth, gallwn weithio'r gynhaliaeth plant allan o fewn ychydig ddyddiau. Byddwn wedyn yn ysgrifennu at y ddau riant, i ddweud wrthynt beth yw'r swm newydd o gynhaliaeth plant a pha wybodaeth a ddefnyddiwyd i'w weithio allan.

Beth yw'r prif wahaniaethau rhwng yr hen gynllun a'r cynllun presennol?

Y gwahaniaeth pwysicaf rhwng yr hen gynllun a'r cynllun presennol yw sut rydym yn gweithio allan y gynhaliaeth plant. Ar gyfer y cynllun presennol, defnyddiwn system o gyfraddau yn seiliedig ar incwm wythnosol net y rhiant dibreswyl

Y pedair cyfradd yw:

  • cyfradd sylfaenol (os oes ganddynt incwm o £200 yr wythnos neu fwy)
  • cyfradd is (os oes ganddynt incwm o fwy na £100 ond llai na £200 yr wythnos)
  • cyfradd unffurf (os oes ganddynt incwm sydd rhwng £5 a £100 yr wythnos), a
  • cyfradd sero (os oes ganddynt incwm sy'n llai na £5 yr wythnos).

Isod, rhestrir gwahaniaethau eraill rhwng yr hen gynllun a'r cynllun presennol.

  • Mae'r ffordd rydym yn gweithio incwm net rhiant dibreswyl allan yn symlach
  • Os bydd y rhiant dibreswyl yn rhannu gofal plentyn cymwys am o leiaf 52 noson y flwyddyn, byddwn yn gostwng swm y gynhaliaeth plant sy'n rhaid iddynt ei dalu.
  • Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu cyfradd unffurf oherwydd eu bod yn cael budd-daliadau, ni fydd yn rhaid iddynt dalu unrhyw gynhaliaeth plant os ydynt yn rhannu'r gofal am eu plant am o leiaf 52 noson y flwyddyn.
  • Nid ydym bellach yn ystyried, ac nid oes angen i ni wybod am incwm y rhiant â gofal ac incwm partner y rhiant dibreswyl
  • Nid ydym bellach yn ystyried costau tai na chostau teithio i'r gwaith ar gyfer unrhyw riant
  • Yn hytrach na defnyddio 'gwyriad' o'r asesiad sylfaenol, gallwn nawr addasu'r swm o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu os oes rhai amgylchiadau penodol eraill y teimla'r naill riant y dylem eu hystyried. Gelwir hyn yn 'amrywiad'
  • Os na fydd rhiant yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i weithio allan y gynhaliaeth plant, byddwn yn defnyddio penderfyniad cynhaliaeth ddiffyg i sefydlu faint o gynhaliaeth plant sy'n rhaid ei dalu. Mae hyn yn disodli asesiadau cynhaliaeth dros dro (interim).

Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn gweithio allan cynhaliaeth plant ac am fanylion am ein pedair prif gyfradd, darllenwch Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan? [PDF 155KB]PDF

A fydd y swm o gynhaliaeth plant yn newid?

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y swm o gynhaliaeth plant yn newid pan fyddwch yn symud i'r cynllun presennol. Gall taliadau fod yn uwch neu'n is. Byddwn yn cyflwyno unrhyw newidiadau i'r taliadau cam wrth gam, fel bod gan y ddau riant amser i ddod i arfer gyda'r newid yn eu sefyllfa ariannol.

Gallwch ddarllen mwy yn ein taflen "Mae fy achos yn symud i'r cynllun cynhaliaeth plant a gyflwynwyd yn 2003 - beth fydd yn newid?" "Mae fy achos yn symud i'r cynllun cynhaliaeth plant a gyflwynwyd yn 2003 - beth fydd yn newid?" [PDF 252KB]PDF

Top y dudalen