Mwy o blant nag erioed ledled Prydain Fawr yn elwa o gynhaliaeth plant
30/07/2008
Mae mwy o blant nag erioed o'r blaen bellach yn elwa o gynhaliaeth plant gan fod yr Asiantaeth Cynnal Plant wedi casglu neu drefnu dros £1.05 biliwn yn genedlaethol dros gyfnod o 12 mis.
Mae'r ffigyrau perfformio diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod 768,000 o blant bellach yn elwa o daliadau cynhaliaeth - 65,000 yn fwy i gymharu â'r flwyddyn ddiwethaf a chynnydd o 207,000 ers Mawrth 2005, cyn i Gynllun Gwella Gweithredol yr Asiantaeth gael ei lansio.1
O'r £1.05 biliwn mae plant yn elwa ohono - cynnydd o £252 miliwn ers Mawrth 05 - casglwyd cyfanswm o £137.6 miliwn mewn ôl-ddyledion. Mae'r ddau ffigwr yn cynrychioli'r lefel uchaf erioed o arian a gasglwyd neu a drefnwyd mewn un cyfnod o 12 mis.
Wrth roi clod i'r ffigyrau diweddaraf fel tystiolaeth bellach fod yr Asiantaeth yn gwella, dywedodd James Plaskitt - Gweinidog Cynhaliaeth Plant:
Mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod y CSA yn parhau i gael mwy o arian i fwy o blant ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'w byd. Gyda chynnydd yn nes ymlaen eleni i'r swm o gynhaliaeth plant gaiff ei ddiystyru a chyhoeddi'n ddiweddar bod argymhellion i ddiystyru'r gynhaliaeth i gyd, bydd hyn ynghyd â'r diwygiadau presennol i'r system cynhaliaeth plant yn dod â 100,000 o blant allan o dlodi.
Mae perfformiad yr Asiantaeth yn parhau i wella wrth i ni nesáu at y Comisiwn newydd a'n hamcan fydd i barhau i wella fel y gallwn helpu mwy o blant a theuluoedd.
Ychwanegodd Stephen Geraghty, sef Prif Weithredwr y CSA a Darpar Gomisiynydd y Comisiwn newydd ar gyfer Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant:
Rwyf yn hynod falch fod mwy o blant nag erioed ledled y Deyrnas Unedig nawr yn elwa o dros £1.05 biliwn o gynhaliaeth a gasglwyd neu a drefnwyd gan yr Asiantaeth. Mae hyn yn dangos bod ein llwyddiant blaenorol yn gynharach eleni yn profi ein bod yn gwella'n barhaol ac yn cyflawni mwy a mwy. Mae ein gwaith yn parhau i greu sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol cynhaliaeth plant wrth i'r Comisiwn gael ei sefydlu nes ymlaen eleni.
Mae Crynodeb Chwarterol yr Ystadegau yn dangos:
- Bod cyfanswm o 768,000 o blant bellach yn elwa o gynhaliaeth plant, cynnydd ar 561,100 ym Mawrth 2005
- Yn ystod y flwyddyn hyd at Fehefin 2008, casglodd neu trefnodd yr Asiantaeth £1.05 biliwn mewn cynhaliaeth plant - mwy nag erioed o'r blaen - ac roedd £137.6 miliwn ohono'n ôl-ddyledion. Mae hyn yn gynnydd ar £798 miliwn ym Mawrth 2005
- Mae'r ganran o rieni sy'n talu cynhaliaeth plant wedi cynyddu i 68%. Mae'r Asiantaeth ar y llwybr iawn i gwrdd â'i tharged o 69% erbyn Mawrth 2009, a bydd hyn yn ei rhoi yn yr un cae â'r asiantaethau cynnal plant mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae hyn 3% yn uwch na 12 mis yn ôl a 5% yn uwch nag ym Mawrth 2005
- Mae'r nifer o geisiadau i'r cynllun newydd sydd heb eu clirio ar y lefel isaf ers Awst 2003, sef 91,300. Gellir cymharu gyda 225,300 ym Mawrth 2005 ac rydym ar y trywydd iawn i wella ar y targed ar gyfer Mawrth 2009 sef 90,000.
- Cafodd 81% o'r ceisiadau newydd a dderbyniwyd ym Mawrth 2008 eu clirio o fewn 12 wythnos, sy'n gynnydd ar y targed safonol o 68%. Mae hyn hefyd ar y blaen o'r targed safonol ar gyfer Mawrth 2009 i glirio 80% o geisiadau newydd o fewn 12 wythnos
- Atebodd yr Asiantaeth 99% o alwadau ffôn oedd ar gael i'w hateb, gydag amser aros o 18 eiliad ar gyfartaledd, cynnydd ar y 84% a atebwyd o fewn amser aros o 1 munud 40 eiliad yn ôl ym Mawrth 2005
Darllenwch gopi o'r Crynodeb Chwarterol o Ystadegau
1Nodwch nad yw'r ffigyrau ar gyfer cyfnodau cyn Mawrth 2007 yn cynnwys achosion clerigol. Dim ond i ffigyrau am blant yn elwa, canlyniadau cynhaliaeth ac achosion heb eu clirio y mae hyn yn berthnasol. Nid yw'n effeithio ar unrhyw ffigyrau eraill.

