Rydym wedi'i gwneud yn haws i rieni dalu eu cynhaliaeth plant. Gall rhieni dalu cynhaliaeth plant maen't wedi'i fethu dros y ffôn drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.
- debyd uniongyrchol i'r Asiantaeth Cynnal Plant
- archeb sefydlog
- gofyn i gyflogwr y rhiant dibreswyl i gymryd arian yn syth o'u cyflog
Os ydych yn rhiant dibreswyl ac yn methu talu beth sydd arnoch dylech gysylltu â ni ar unwaith. Byddwn yn trafod eich amgylchiadau ac yn cynnig nifer o opsiynau talu.
Beth fydd yn digwydd os wyf eisiau talu drwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog?
Mae talu cynhaliaeth plant drwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog yn ffordd gyflym a chyfleus o wneud taliad. Gallwch drefnu archeb sefydlog o'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa'r Post yn uniongyrchol i mewn i gyfrif y rhiant â gofal os byddant yn cytuno. Os yw'r rhiant â gofal ar fudd-daliadau, mae'n rhaid i ni hefyd gytuno y gellir gwneud taliadau yn uniongyrchol.
Neu, gallwch drefnu debyd uniongyrchol neu archeb sefydlog i ni. Lle bo'n briodol, byddwn wedyn yn trosglwyddo'r taliad i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa'r Post y rhiant â gofal. Ein nod yw trosglwyddo cynhaliaeth plant o fewn wythnos o'i derbyn.
Os ydych eisiau talu drwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog, bydd angen i chi lenwi rhai ffurflenni, a gallwn anfon y rhain atoch.
Beth fydd yn digwydd os wyf eisiau talu'n uniongyrchol o'm henillion?
Mae talu eich cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o'ch enillion yn ffordd hawdd o drefnu taliad, a gall eich helpu i reoli eich arian. Mae hyn oherwydd bod eich cynhaliaeth plant yn cael ei thynnu o'ch enillion cyn i chi eu cael. Felly, beth bynnag a gewch fel cyflog net, ni fydd yn rhaid i chi dalu cynhaliaeth ohono. Os bydd eich cyflogwr yn cytuno, gallwch dalu cynhaliaeth plant fel hyn drwy drefniant didynnu'n wirfoddol o enillion.
Darllenwch fwy am drefniadau didynnu'n wirfoddol o enillion yn ein taflen Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant? [571Kb]

