Hafan › Ynghylch › Beth mae'r CSA yn ei wneud › Ein pwerau › Mae amser yn mynd yn brin
Mae amser yn mynd yn brin
Os bydd rhieni yn ceisio osgoi talu cynhaliaeth plant byddwn yn cymryd camau i gael yr arian sy'n ddyledus ganddynt. Rydym hefyd yn edrych ar filoedd o achosion ble mae rhieni wedi osgoi talu am eu plant dros nifer o flynyddoedd.
Gallwn gymryd yr arian yn uniongyrchol o'u cyflog. Gallwn hefyd gymryd camau drwy'r llysoedd. Gellir hyn gynnwys gofyn i beilïaid gasglu'r arian sy'n ddyledus, atafaelu eu trwyddedau gyrru, neu eu hanfon i'r carchar.
- Bob blwyddyn caiff 13,000 o achosion pobl sy'n gwrthod talu eu pasio ymlaen i feilïaid
- Bob mis caiff 6,000 o orchmynion newydd eu hanfon allan er mwyn cymryd arian allan o gyflogau
- Bob wythnos caiff 200 o achosion pobl sy'n gwrthod talu eu pasio ymlaen i'r llysoedd
Rydym yn defnyddio ystod eang o'n pwerau i rieni sydd ddim yn talu.
Os ydych yn riant dibreswyl sydd eisiau darganfod sut i dalu cynhaliaeth plant, darganfod sut a gweithredu nawr, neu darganfod mwy am y y camau gallwn eu cymryd os byddwch yn methu talu.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Pa gamau all y CSA eu cymryd os na fydd rhieni'n talu?" [941Kb]

