Mae gennym amryw o bwerau i'n helpu i olrhain rhieni sy'n ein hosgoi. Rydym yn defnyddio'r rhain i edrych ar filoedd o achosion ble mae'r rhieni wedi osgoi talu cynhaliaeth plant dros nifer o flynyddoedd.
Gallwn ddefnyddio gwybodaeth sydd gan adrannau eraill o'r llywodraeth, fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Os byddwn yn parhau i fethu dod o hyd iddynt drwy wneud hyn, gall 8,000 o'n gweithwyr chwilio drwy wybodaeth gan asiantaethau cyfeirio credyd. Mae cwmnïau olrhain arbenigol y sector preifat hefyd yn ein helpu gydag achosion sy'n arbennig o anodd.
Mae'n drosedd os bydd rhywun yn methu â rhoi gwybodaeth i ni neu yn rhoi gwybodaeth i ni y maent yn gwybod ei bod yn ffug. Gallwn fynd â hwy i'r llys a gallant gael dirwy o hyd at £1,000.
Os na fydd y rhiant dibreswyl yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i weithio cynhaliaeth plant allan, byddwn yn cymhwyso cyfradd yn seiliedig ar y nifer o blant y dylent fod yn talu cynhaliaeth plant ar eu cyfer. Gelwir hyn yn 'benderfyniad cynhaliaeth diffyg' ac mewn llawer o achosion mae'n gweithio allan yn uwch na phe byddai wedi'i weithio allan yn defnyddio ei incwm wythnosol net.
Y cyfraddau diffyg yw £30 yr wythnos ar gyfer un plentyn; £40 ar gyfer dau o blant; a £50 ar gyfer tri neu fwy o blant. Byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi i'w cael i dalu'r swm hwn, oni bai iddynt ddarparu'r wybodaeth rydym ei hangen.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Pa gamau all y CSA eu cymryd os na fydd rhieni'n talu?" [941Kb]

