HafanCynghorwyr › Swyddogion cyswllt ethnig

Swyddogion cyswllt ethnig

Mae gan bob canolfan Asiantaeth Cynnal Plant Swyddog Cyswllt Ethnig, eu rôl yw helpu gwella'r ffordd rydym yn cyflwyno'r gwasanaeth a'n polisi ar gyfer ein cleientiaid lleiafrifoedd ethnig yn y dyfodol. Fe gyflawnir hyn drwy ddatblygu cysylltiadau yn y gymuned, drwy fwy o gydweithio gyda grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig a thrwy ymchwil mewnol a wnaed o fewn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae pob Swyddog Cyswllt Ethnig wedi datblygu cronfa ddata o fudd-ddeiliaid lleol yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda nhw i ddynodi pa fylchau sydd o fewn y gwasanaeth lleol a ddarperir a pha rwystrau sy'n bodoli gyda grwpiau diwylliannol sy'n defnyddio'r Asiantaeth.

Byddai ein Swyddogion Cyswllt Ethnig yn hapus i ddod i siarad â grwpiau ethnig a chyrff yn eu hardal.

Os byddai gennych ddiddordeb mewn cysylltu â ni i drefnu ymweliad rhowch hanner cyntaf eich cod post yn y blwch isod fel y gallwn gyfeirio eich e-bost at ein Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid yn eich ardal.

Dechreuwch drwy roi hanner cyntaf eich cod post yn y blwch isod.

Bydd hyn yn ein galluogi i anfon eich neges i'r swyddfa cywir