Fel arfer, gofynnir i rieni sydd wedi osgoi talu neu wedi methu taliadau, ad-dalu y swm llawn sy'n ddyledus ar unwaith.
Dewisiadau talu
Byddwn yn ceisio helpu'r Rhiant Dibreswyl i gwrdd â'u cyfrifoldebau ariannol tuag at eu plant. Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod yn bosibl trin a thrafod y mater er mwyn dod i gytundeb fydd yn cynnig dull talu addas ar gyfer ad-dalu'r ôl-ddyledion.
Camau pellach
Os na allwn ddod i gytundeb addas, byddwn yn ystyried cymryd camau gorfodi a gallai'r rhain gynnwys Gorchmynion Didynnu o Enillion (DEO) neu fynd i'r Llysoedd i geisio cael Gorchymyn Atebolrwydd.
Cewch wybod mwy am ddulliau talu yma.
Top y dudalenGwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant?" [941Kb]
- Darllenwch ein taflen "Pa gamau all y CSA eu cymryd os na fydd rhieni'n talu?" [941Kb]

