Dylai rhieni ddweud wrthym os bydd incwm wythnosol rheolaidd y rhiant dibreswyl yn newid, neu os oes unrhyw newidiadau eraill i'r wybodaeth rydym yn ei defnyddio i weithio allan y swm o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu.
Dylai rhieni ddibreswyl dewud wrthym os ydynt yn:
- dechrau neu'n stopio gweithio i gyflogwr
- dechrau neu'n stopio bod yn hunangyflogedig
- newid swyddi
- mynd yn ddi-waith, neu
- dechrau gweithio ar ôl bod yn ddi-waith.
Os ydym wedi dweud wrth gyflogwr y rhiant dibreswyl am gymryd cynhaliaeth plant o'u henillion drwy orchymyn didynnu o enillion, mae'n rhaid i'r rhiant dibreswyl ddweud wrthym os ydynt yn newid eu cyflogwr.
Dylai rhiant dibreswyl hefyd ddweud wrthym:
- enw a chyfeiriad y cyflogwr newydd, os oes ganddynt un,
- y swm maent yn disgwyl ei ennill, a'u
- rhif cyflogres neu rif staff, os oes ganddynt un.
Mae'n drosedd os na fydd rhiant dibreswyl yn dweud wrthym o fewn wythnos o'r dyddiad pryd daeth y newidiadau hyn i rym.
Ni fydd pob newid mewn amgylchiadau yn golygu bod angen i ni newid y swm o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu. Efallai na fyddwn yn newid y swm o gynhaliaeth plant os bydd y newid i incwm wythnosol net rheolaidd y rhiant dibreswyl yn llai na 5%.
Top y dudalen
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

