Hafan › Eich achos › Taliadau › Pwerau gorfodi › Gorfodi yn Nghymru ac Lloegr
Gorfodi yn Nghymru ac Lloegr
Pa gamau gall y CSA eu cymryd drwy'r llysoedd?
Gallwn ddefnyddio'r llysoedd i hawlio unrhyw arian sy'n ddyledus gan riant dibreswyl.
Mae cymryd camau drwy'r llysoedd yn gostus a gallai olygu y gallai'r rhiant dibreswyl orfod talu mwy o arian, cael eu trwydded yrru wedi'i diddymu neu hyd yn oed fynd i'r carchar.
Y cam cyntaf a gymerwn yw gwneud cais am orchymyn atebolrwydd am y gynhaliaeth plant a gollwyd. Mae hyn yn dangos bod y gyfraith yn cydnabod bod dyled i'w thalu, ac yn rhoi awdurdod y llys i ni gymryd camau i gael y gynhaliaeth plant sy'n ddyledus.
Byddwn yn gwneud cais i'r llys ynadon yng Nghymru a Lloegr
Os nad yw llys yn rhoi gorchymyn atebolrwydd, a bod gennym resymau da, byddwn yn apelio yn erbyn y penderfyniad.
Beth sy'n digwydd ar ôl rhoi gorchymyn atebolrwydd?
Unwaith y byddwn wedi cael gorchymyn atebolrwydd, mae nifer o opsiynau ar gael gan gynnwys cymryd camau pellach drwy'r llys.
Mae'r camau y gallwn eu cymryd wedi'u nodi fan hyn. Nid yw'r camau hyn mewn unrhyw drefn benodol ac yn aml, gallwn gymryd mwy nag un cam ar y tro.
Pa gamau gall y CSA eu cymryd os yw'r rhiant dibreswyl yn byw yng Nghymru neu Loegr?
Beiliaid
Gall beiliaid atafaelu eiddo rhiant dibreswyl a'u gwerthu er mwyn cael yr arain sy'n ddyledus gan y rhiant dibreswyl. Gall y beiliaid hefyd ychwanegu eu costau hwy at y swm sy'n ddyledus gan y rhiant dibreswyl.
Cofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon
Gallwn nodi gorchymyn ateboirwydd ar y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon. Defnyddir y gofrestr hon gan asiantaethau cyfeirio credyd er mwyn sefydlu beth yw statws credyd rhywun. Gall hefyd effeithio ar aelodaeth os ydych yn perthyn i sefydliad proffesiynol.
Gorchymyn dyled trydydd parti
Gall llys sirol roi gorchymyn dyled trydydd parti er mwyn rhewi arian sy'n eiddo i riant dibreswyl, neu'n ddyledus iddynt ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn cynnwys rhwystro rhiant dibreswyl rhag defnyddio eu banc, eu cymdeithas adeiladu neu eu cyfrif Swyddfa'r Post, neu rhag cael arian am anfoneb heb ei thalu os ydynt yn hunangyflogedig.
Unwaith y bydd yr arian wedi'i rewi, gallwn ofyn i'r gynhaliaeth plant gael ei thalu. Unwaith y bydd yr arian wedi'i rewi, gallwn ofyn i'r gynhaliaeth plant gael ei thalu. Pan dderbynnir yr arian, caiff ei drosglwyddo i'r rhiant â gofal.
Fodd bynnag, os yw'r rhiant â gofal yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, ni fyddant yn cael taliadau cynhaliaeth plant llawn yn ogystal â'u budd-daliadau. Mae hyn oherwydd bod y Llywodraeth yn cadw rhywfaint o'r arian a delir fel cynhaliaeth i wneud i fyny am yr arian a delir fel budd-daliadau.
Gorchymyn talu
Rydym yn gwneud cais i'r llys sirol i wneud gorchymyn talu. Mae hyn yn cofrestru'r swm a welir ar y gorchymyn atebolrwydd yn erbyn unrhyw eiddo neu asedau (gan gynnwys tir, stociau a chyfranddaliadau, neu log mewn ymddiriedolaeth) y mae'r rhiant dibreswyl yn berchen arnynt.
Pan fydd yr eiddo neu'r asedau hynny sydd ond yn eiddo i'r rhiant dibreswyl yn cael eu gwerthu, bydd unrhyw arian sydd yn weddill ar ôl talu unrhyw orchmynion neu daliadau eraill sydd â blaenoriaeth, fel morgais, yn cael ei dalu'n uniongyrchol i ni. Weithiau gallwn orfodi'r rhiant i werthu'r eiddo er mwyn cael yr arian sy'n ddyledus.
Gallwn wneud cais am orchymyn talu ar eiddo y mae'r rhiant dibreswyl a rhywun arall yn cyd-berchen arno, ond pan gaiff yr eiddo hwnnw ei werthu caiff yr arian o'r gwerthiant ei dalu'n uniongyrchol i'r rhiant dibreswyl. Pan fyddant wedi cael eu talu, gallwn gasglu'r gynhaliaeth plant oddi wrthynt.
Mae wybodaeth llawn am y camau gorfodi y gallwn eu cymryd os na fydd y rhiant yn talu yn ein taflen, "Pa gamau gall yr Asiantaeth Cynnal Plant eu cymryd os na fydd rhieni'n talu?" [PDF 941Kb] ![]()
Top y dudalen
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

