HafanEich achosTaliadauPwerau gorfodi › Pwerau gorfodi

Pwerau gorfodi

Pa gamau all y CSA gymryd drwy'r llysoedd?

Gallwn ddefnyddio'r llysoedd i geisio unrhyw arian sy'n ddyledus gan riant dibreswyl.

Mae cymryd camau trwy'r llysoedd yn gostus a gallai rhiant dibreswyl orfod talu mwy o arian yn y pen draw, colli eu trwydded yrru neu hyd yn oed mynd i'r carchar.

Y cam cyntaf y cymerwn yw i wneud cais am orchymyn atebolrwydd ar gyfer y gynhaliaeth plant sydd heb ei thalu. Mae hyn yn dangos fod y gyfraith yn cydnabod bod dyled i'w thalu, ac yn rhoi awdurdod y llys i ni gymrys camau er mwyn adennill y gynhaliaeth plant sy'n ddyledus

Byddwn yn gwneud cais i'r siryf yn Yr Alban am orchymyn atebolrwydd. Yn yr Alban, os na fydd y rhiant dibreswyl yn gwrthwynebu i'n cais, gall y siryf roi'r gorchymyn heb fo angen gwrandawiad.

Os na fydd llys (neu siryf yn yr Alban) yn rhoi gorchymyn atebolrwydd, a bod gennym resymau da, byddwn yn apelio'n erbyn y penderfyniad .

Beth fydd yn digwydd ar ôl rhoi gorchymyn atebolrwydd?
Unwaith y byddwn wedi cael gorchymyn atebolrwydd, yna bydd gennym nifer o opsiynau ar gael gan gynnwys cymryd camau pellach trwy'r llys. Gosodir y camau y gallwn eu cymryd yma, ond nid ydynt mewn unrhyw drefn penodol ac yn aml gallwn gymryd mwy nag un cam ar unwaith.

Pa gamau gall y CSA eu cymryd os yw'r rhiant dibreswyl yn byw yn Yr Alban?

Arwystl am daliad
Arwystl am daliad yw pan y caiff gorchymyn am daliad ei gyflwyno gan swyddogion y siryf. Mae'n mynnu bod y rhiant dibreswyl yn talu'r swm ar y gorchymyn atebolrwydd yn llawn o fewn 14 diwrnod gwaith os ydynt yn byw yn y DU. Os ydynt yn byw dros dro y tu allan i'r DU, mae ganddynt 28 diwrnod.

Arestiad
Mae arestiad yn rhewi arian y rhiant dibreswyl neu arian sy'n ddyledus iddynt ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn cynnwys stopio rhiant dibreswyl rhag gallu defnyddio eu cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post. Unwaith y rhewir yr arian, gallwn gymryd y swm sy'n ddyledus ar y gorchymyn atebolrwydd ar gyfer cynhaliaeth plant.

Atafaelu ac ocsiwn
Atafaelu yw pan fo swyddogion y siryf yn rhestru a gwerthuso eiddo symudol rhiant dibreswyl sy'n cael eu cadw y tu allan i'w cartref. Gall hyn gynnwys ceir neu feiciau modur, neu gynnwys garej neu adeilad allanol arall.

Os yw rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, gallwn gynnal atafaeliad yn eu man busnes.
Yna gellir gwerthu'r eiddo ar y rhestr mewn ocsiwn cyhoeddus er mwyn adennill yr arian sy'n ddyledus gan y rhiant dibreswyl ar gyfer cynhaliaeth plant.

Os na allwn gael yr arian sy'n ddyledus gan y rhiant dibreswyl twy'r ffyrdd hyn, gallwn wneud cais am atafeliad ac ocsiwn eithriadol. O dan atafaeliad eithriadol, bydd swyddogion y siryf yn rhestru a gwerthuso eiddo symudol rhiant dibreswyl a gedwir y tu fewn i'w cartref. Yna gellir gwerthu'r eiddo ar y rhestr mewn ocsiwn cyhoeddus er mwyn cael yr arian sy'n ddyledus gan y rhiant dibreswyl ar gyfer cynhaliaeth plant.

Llestair

Llestair yw pan gaiff y swm ar y gorchymyn atebolrwydd ei gofrestru'n erbyn y rhiant dibreswyl ac sy'n llesteirio'r gwerthiant neu drosglwyddiad yn y dyfodol o unrhyw eiddo etifeiddiol maent yn berchen arno. Mae eiddo etifeiddiol yn cynnwys tai, modurdai, safleoedd busnes a thir. Golyga hyn na all y rhiant dibreswyl werthu na throsglwyddo'r eiddo etifeiddiol hyd nes byddant wedi talu'r arian sy'n ddyledus ganddynt ar gyfer cynhaliaeth plant.

Mae gwybodaeth lawn am y camau gorfodi y gallwn eu cymryd os na fydd y rhiant yn talu yn ein taflen, "Pa gamau gall yr Asiantaeth Cynnal Plant eu cymryd os na fydd rhieni'n talu?" [PDF 941Kb] PDF


Top y dudalen