Hafaneich achosTalaidauPwerau gorfodaethOs na fydd rhieni'n talu

Os na fydd rhieni'n talu

Os nad yw rhiant dibreswyl yn talu'r swm cywir o gynhaliaeth plant ar yr adeg gywir, byddwn yn cymryd camau i gael unrhyw arian sy'n ddyledus i'r rhiant â gofal neu i'r Llywodraeth.

Os ydych yn rhiant dibreswyl a'ch bod yn gwybod y byddwch yn hwyr yn gwneud taliad, dylech ddweud wrthym ar unwaith.

Os bydd rhieni yn talu cynhaliaeth drwom ni, gallwn gymryd gweithred yn syth pan fyddant yn methu taliad. Os byddant yn talu cynhaliaeth plant yn uniongyrchol i'r rhiant â gofal wedi iddynt wneud cais atom ni gall y rhiant â gofal gysylltu â ni i ofyn i ni gasglu'r arian sy'n ddyledus ganddynt.

Fe wnawn geisio cysylltu â'r rhiant dibreswyl dros y ffôn gyntaf. Os na allwn gysylltu â nhw dros y ffôn byddwn yn anfon llythyr atynt i ddweud y byddwn yn anfon llythyr atynt yn rhybuddio y gallwn ddechrau gweithred gorfodaeth os na fyddant yn:

  • dod i gytundeb i dalu swm y gynhaliaeth llawn maent wedi ei fethu
  • cadw at gytundeb a wnaed ganddynt eisoes.

Mae ganddynt saith diwrnod i ymateb i'n rhybudd. Os na fyddant gallwn gymryd camau pellach i gael yr arian sy'n ddyledus ganddynt ar gyfer eu plant. Bydd hyn yn dibynu ar bob achos ond gall gynnwys:

  • gymryd arian yn uniongyrchol o enillion y rhiant dibreswyl os oes ganddynt swydd
  • cyfeirio'r achos at asiantaeth rheoli dyled.
  • cymryd gweithred drwy'r llysoedd. Gall hyn fod yn ddrud a gall arwain at riant dibreswyl yn talu mwy, atafaelu trwydded yrru neu fynd i garchar.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein pwerau yn ein adran gorfodaeth.

Top y dudalen