HafanEich achosNewidiadau mewn amgylchiadauAmgylchiadau teulu › Gadael addysg llawn amser

Gadael addysg llawn amser

Bydd cynhaliaeth plant yn daladwy yr holl amser y telir Budd-dal Plant ac mae'r plentyn:

  • o dan 16 oed; neu
  • o dan 19 ac mewn addysg llawn amser, nad yw'n addysg uwch,

Diffiniad addysg llawn amser yw dilyn cwrs sy'n cynnwys 12 awr yr wythnos neu fwy o astudiaeth hyd at a chan gynnwys Safon Uwch. Rhai enghreifftiau o addysg nad yw'n addysg uwch yw:

Addysg nad yw'n addysg uwch

  • TAU / TGAU - Safon Uwch / Safon Uwch Atodol / Lefel O
  • SCE Gradd Uwch neu gyffelyb
  • GNVQ / NVQ lefelau 1 2 & 3
  • Diploma Cenedlaethol BTEC

Top y dudalen