Mewn unrhyw achos cynhaliaeth plant, byddwn yn casglu gwybodaeth gan y ddau riant am eu hincwm a'u hamgylchiadau teuluol ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i weithio allan faint o gynhaliaeth plant y dylid ei thalu i'r rhiant â gofal. Yna byddwn yn anfon llythyr at y ddau riant i ddweud wrthynt beth yw ein penderfyniad ar y swm hwn a phryd y dylid ei dalu.
Os credwch fod y penderfyniad yn anghywir, mae hawl gennych i apelio yn ei erbyn. Dylech wneud hyn o fewn mis o ddyddiad y llythyr sy'n dweud wrthych am ein penderfyniad.
Mae apêl yn broses ffurfiol, lle bydd tribiwnlys annibynnol, a drefnir gan y Gwasanaeth Tribiwnlys, yn edrych ar y penderfyniad eto. Gall gymryd amser hir iddynt ddod i ganlyniad.
Yn hytrach nag apelio, gallwch naill ai ofyn i ni egluro ein penderfyniad neu ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto. Mae hon yn broses llai ffurfiol ac yn aml mae'n ffordd well a chyflymach o gywiro penderfyniadau a allai, yn eich barn chi, fod wedi anwybyddu rhai ffeithiau bwysig.
Top y dudalen
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]


