HafanEich achosNewidiadau mewn amgylchiadauAmgylchiadau teulu › Trefniadau byw newydd

Trefniadau byw newydd

Gallwn ostwng y swm o gynhaliaeth plant sy'n rhaid i'r rhiant dibreswyl ei dalu os:

  • bydd y plentyn yn dros nos gyda'r rhiant dibreswyl o leiaf un noson yr wythnos ar gyfartaledd, a
  • bod swm y gynhaliaeth plant y dylid ei dalu yn cael ei weithio allan gan ddefnyddio rheolau'r cynllun presennol.

Gelwir hyn yn 'rhannu gofal'.

Os byddwch yn rhannu'r gofal am eich plentyn gyda'r rhiant arall, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon pan fyddwn yn gwneud y cyfrifiad newydd.

Os bydd y plentyn neu blant yn treulio'r un faint o amser cyfartal yn aros dros nos gyda'u rhieni (ar gyfartaledd dros y 12 mis diwethaf), yna dywedwn fod y gofal wedi ei rannu hanner a hanner. Pan fydd hyn yn digwydd, gall y rhiant sy'n cael y Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn neu blant barhau i wneud cais, fel y rhiant â gofal, am gynhaliaeth plant.

Sut gostyngir cynhaliaeth plant yn achosion y cynllun presennol?

Mewn achos o rannu gofal, byddwn yn gostwng cynhaliaeth plant ar gyfer y plentyn hwnnw un rhan o saith am bob noson o'r wythnos y bydd y plentyn yn aros gyda'r rhiant dibreswyl.

Os caiff gofal plentyn ei rannu'n gyfartal rhwng y ddau riant, rydym yn

  • haneru'r gyhaliaeth plant, ac
  • yna'n gostwng y gynhaliaeth plant eto £7 arall yr wythnos ar gyfer y plentyn hwnnw. Mae'r swm o £7 wedi'i osod yn y gyfraith.

Cyfradd sylfaenol a chyfradd is?

O dan y cynllun presennol, gallwn ostwng y swm wythnosol o gynhaliaeth plant sy'n rhaid i'r rhiant dibreswyl ei dalu os:

  • bydd y plentyn yn aros dros nos gyda'r rhiant dibreswyl am o leiaf un noson yr wythnos ar gyfartaledd, neu am o leiaf 52 o nosweithiau y flwyddyn, ac
  • rydym yn defnyddio'r gyfradd sylfaenol neu'r gyfradd is i weithio allan faint yw'r taliad cynhaliaeth plant wythnosol.

Mae hyn yn disodli'r trefniadau ble roedd angen i'r rhiant dibreswyl ddarparu gofal am o leiaf 104 noson y flwyddyn i fod yn gymwys i gael unrhyw ostyngiad i'r gynhaliaeth plant. Os ydych yn rhannu'r gofal am eich plentyn gyda'r rhiant arall, dylech roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth honno pan fyddwn yn gweithio allan y swm newydd o gynhaliaeth plant.

I weithio allan faint y gallwn gymryd oddi ar y taliad wythnosol o gynhaliaeth plant, mae'n rhaid i ni wybod y nifer o nosweithiau yr wythnos, ar gyfartaledd, y mae'r plentyn yn aros gyda'r rhiant dibreswyl.

Ble bo rhieni yn rhannu'r gofal am eu plant, rydym yn gweithio allan y swm o gynhaliaeth plant yn ddyddiol (fel arfer un rhan o saith o'r swm wythnosol sy'n rhaid i'r rhiant dibreswyl ei dalu). Er enghraifft, os oes rhaid i'r rhiant dibreswyl dalu cynhaliaeth plant o £70 yr wythnos, mae hynny'n swm dyddiol o £10. (£70 wedi'i rhannu â 7).

Cyfradd unffurf

Os bydd y rhiant dibreswyl neu eu partner yn cael budd-dal sy'n golygu eu bod yn talu cynhaliaeth plant ar gyfradd unffurf, a'u bod yn rhannu gofal eu plant am o leiaf 52 o nosweithiau y flwyddyn, ni fydd yn rhaid i'r rhiant dibreswyl dalu unrhyw gynhaliaeth plant.

Gallwch ddefnyddio'n cyfrifydd i weithio allan faint o gynhaliaeth allwch chi ei thalu os yw eich amgylchiadau byw wedi newid.

Gallwch gael gwybod sut i gysylltu â ni i ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau yma.


Top y dudalen