HafanEich achosTaliadauPwerau gorfodiGorfodi dramor › REMO

REMO

Cyflwyniad

Gorfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth, neu REMO yw'r broses a ddefnyddir i gofrestru a gorfodi gorchmynion cynhaliaeth a wneir gan lysoedd y Deyrnas Unedig, ar ran preswylwyr y Deyrnas Unedig, drwy'r llysoedd neu'r awdurdodau mewn gwledydd eraill yn erbyn preswylwyr y gwledydd hynny.

Mae hwn yn drefniant cytbwys sy'n cael ei reoli gan gytuniadau rhyngwladol sy'n golygu y gellir cofrestru a gorfodi gorchmynion cynhaliaeth a wneir dramor, o blaid unigolion sy'n byw dramor, yn erbyn preswylwyr y Deyrnas Unedig drwy lysoedd y Deyrnas Unedig. Mae natur manwl gywir y trefniant cytbwys sydd ar gael rhwng y Deyrnas Unedig ac awdurdodaeth arall yn ddibynnol ar y cytuniadau y mae'r wlad arall wedi eu harwyddo.

Sut i wneud cais

Dylai preswyliwr o'r Deyrnas Unedig sy'n dymuno gwneud cais i gael cynhaliaeth gan berson dramor fyndat

  • eu llys ynadon lleol (neu lys sirol lle gwnaed y gorchymyn) os oes ganddynt orchymyn llys presennol ar gyfer cynhaliaeth; neu
  • eu llys ynadon lleol os nad oes gorchymyn presennol

Gallant wneud cais am i'w gorchymyn gael ei orfodi yn y wlad lle mae'r person sy'n atebol i dalu yn byw. Mae gweithdrefnau hefyd yn bodoli i alluogi cais am i awdurdodau dramor greu gorchymyn ar gyfer cynhaliaeth ar eu rhan. Nid oes angen i'r ceisydd gyflogi cyfreithiwr. Bydd staff y llys yn helpu'r ceisydd ac yn anfon y cais ymlaen at yr awdurdod perthnasol. Bydd yr awdurdod yn sicrhau bod y cais yn gywir a'i anfon at yr awdurdod neu lys tramor er mwyn ei gofrestru a'i orfodi yn erbyn y person sy'n byw yno.

Swyddogaeth yr Adran REMO

Cymru a Lloegr

Yr Adran Remo o'r Ymddiriedolwr Gwladol a'r Cyfreithiwr Swyddogol yw'r awdurdod yng Nghymru a Lloegr ar gyfer trosglwyddo a derbyn ceisiadau ar gyfer gorfodi cynhaliaeth os bydd y rhiant dibreswyl yn byw dramor. Mae hefyd yn arwain y ffordd gyda materion polisïau REMO ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyfan gwbl, gan ymgynghori â chydweithwyr yng Ngweithredlu'r Alban a Gwasanaeth Llysoedd Gogledd Iwerddon.

Yr Alban

Mae Gweithredlu'r Alban yn delio â cheisiadau REMO rhwng Yr Alban ac awdurdodaethau tramor. Os ydych yn byw yn Yr Alban

Sut y gall Gweithredlu'r Alban helpu i gasglu cynhaliaeth [PDF 103Kb] PDF

Gogledd Iwerddon

Mae Gwasanaeth Llys Gogledd Iwerddon yn ymwneud â cheisiadau REMO rhwng Gogledd Iwerddon ac awdurdodaethau tramor.

Gorfodaeth

Bydd y ceisiadau tramor yn cael eu gorfodi yn ôl cyfraith y wlad honno. Nid oes gan awdurdodau'r Deyrnas Unedig unrhyw bŵer i orfodi llysoedd neu awdurdodau tramor i orfodi gorchmynion cynhaliaeth, neu i osod terfyn amser ar gyfer gorfodaeth, gan fod y system wedi'i seilio ar gytundeb cytbwys. Fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i annog asiantaethau tramor i gyd-fynd â'u goblygiadau cenedlaethol.

Yn gyffredinol, ni ddarperir cyngor cyfreithiol manwl i geisyddion neu eraill: cyfrifoldeb y llysoedd yw hyn. Fodd bynnag, gellir rhoi cyngor cyffredinol am y gweithdrefnau.

Cysylltwch â REMO

Gellir cysylltu ag Adran REMO o'r Ymddiriedolwr Gwladol a'r Cyfreithiwr Swyddogol drwy'r dulliau canlynol

Ffôn
0845 345 5303
Ffacs
020 7911 7030

www.dca.gov.uk/family/remo/contents.htm

Deddfwriaeth y Deyrnas Unedig

Y Ddeddf Gorchmynion Cynhaliaeth (Gorfodaeth Cytbwys) 1972 yw'r ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer gweithredu'r weithdrefn REMO yn y Deyrnas Unedig.

Hefyd mae sawl Offeryn Statudol wedi'i osod ers 1972 er mwyn addasu'r trefniadau manwl rhwng y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill, neu i ganiatàu i ddeddfwriaethau ychwanegol gael eu hystyried rhwng gwledydd cytbwys.

Cytuniadau a Chytundebau eraill

Mae'r Deyrnas Unedig yn llofnodwr i nifer o gytuniadau rhyngwladol ar oblygiadau cynhaliaeth, er enghraifft

  • Cytuniad y Cenhedloedd Unedig ar Adennill Cynhaliaeth Dramor 1956;
  • Confensiwn Brwsel ar Awdurdodaeth a Gorfodi Dyfarniadau mewn Materion Sifil a Masnachol 1968; a
  • Cytuniad yr Hâg ar Gydnabod a Gorfodi Penderfyniadau Parthed Goblygiadau Cynhaliaeth 1973

Yn ogystal, mae gan y Deyrnas Unedig Gytundebau ar gyfer gorfodi cynhaliaeth gyda'r rhan fwyaf o aelodau'r Gymanwlad, gyda Gweriniaeth Iwerddon, a gyda'r rhan fwyaf o Unol Daleithiau America.

Rhestr o wledydd cytbwys REMO

A
A
Algeria
Anguilla
Antigua & Barbuda
Austria
Australia
B
Barbados
Beddze
Belgium
Bermuda
Bosnia & Herzegovina
Botswana
Brazil
Brunei
Burkina Faso
C
Canada (not Quebec)
Cape Verde
Cayman Islands
Central African Rep
Chile
Croatia
Cyprus
Czech Repubddc
D
Denmark
Dominica
F
Falkland Islands
Fiji
Finland
France
G
Gambia
Germany
Ghana
Gibraltar
Greece
Grenada
Guatemala
Guernsey
Guyana
H
Haiti
Hong Kong
Hungary
I
Iceland
India
Ireland
Isle of Man
Israel
Italy
J
Jamaica
Jersey
K
Kenya
Kiribati
L
Lesotho
Luxembourg
M
Macedonia
Malawi
Malaysia
Malta
Mauritius
Mexico
Monaco
Montserrat
Morocco
N
Nauru
Netherlands
New Zealand
Niger
Nigeria
Norfolk Island
Norway
P
Pakistan
Papua New Guinea
Philippines
Poland
Portugal
R
Romania
S
St. Helena
St. Kitts & Nevis
St. Lucia
St. Vincent
Seychelles
Sierra Leone
Singapore
Slovakia
Slovenia
Solomon Islands
South Africa
Spain
Sri Lanka
Surinam
Swaziland
Sweden
Switzerland
T
Tanzania
Trinidad & Tobago
Tunisia
Turkey
Turks & Caicos Islands
Tuvalu
U
United States
(excluding Alabama, Mississippi, South Caroddna and District of Columbia)
Uruguay
V
Virgin Islands
Z
Zambia
Zimbabwe