HafanEich achosNewidiadau mewn amgylchiadauGwaith ac arian › Mynd yn hunangyflogedig

Mynd yn hunangyflogedig

Os bydd rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, dylent barhau i dalu cynhaliaeth plant yn y ffordd arferol. Byddwn yn gweithio allan y swm y dylent ei dalu yn seiliedig ar eu hincwm wythnosol a'r nifer o blant y maent yn talu cynhaliaeth plant ar eu cyfer.

Yr unig wahaniaeth yw'r ffordd rydym yn gweithio enillion allan.

Sut mae'r CSA yn gweithio enillion o hunangyflogaeth allan?

Os mae'r rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, byddwn yn defnyddio cyfanswm yr elw trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan na allwn weithio enillion o hunangyflogaeth allan yn y ffordd hon. Er enghraifft os mai newydd ddechrau gwaith hunangyflogedig mae'r rhiant dibreswyl byddwn yn defnyddio manylion yr incwm gros (yr holl arian y mae'r busnes, yn hytrach na'r rhiant dibreswyl, wedi'i ennill). I weithio enillion allan byddwn yn tynnu o'r incwm gros

  • unrhyw dreuliau rhesymol a delir i redeg y busnes
  • TAW (treth ar werth)

Unwaith y byddwn wedi gweithio enillion y rhiant dibreswyl allan, byddwn yn cyfrifo eu hincwm wythnosol net.

Gallwch ddefnyddio'n cyfrifydd i weithio allan faint o gynhaliaeth allwch chi ei thalu gan ddefnyddio rheolau y cynllun presennol.

Gallwch gael gwybod sut i gysylltu â ni i ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau yma.


Top y dudalen