Cyflwyniad
Ein nod yw i gael taliadau cynhaliaeth plant rheolaidd. Golyga hyn bod angen i ni gasglu arian sy'n ddyledus gan y rhiant dibreswyl (rhieni nad oes ganddynt ofal o ddydd i ddydd o'r plentyn) a'i roi i'r rhiant sy'n darparu'r rhan fwyaf o ofal i'r plentyn.
Dull reolaidd o gasglu cynhaliaeth yw'r gorchymyn didynnu o enillion. Rydym wedi dylunio gorchmynion didynnu o enillion i weithio mewn ffordd tebyg i orchmynion atafael enillion sy'n cael eu defnyddio i gasglu dyledion fel dirwyon. Fel cyflogwr, efallai eich bod yn gyfarwydd â hyn yn barod.
Er fod y penderfyniad i osod gorchymyn didynnu o enillion yn cael ei wneud gennym ni ac nid y llysoedd byddwch yn cyflawni trosedd o dan adran 32(8) o Ddeddf Cynnal Plant 1991 os na fyddwch yn cydymffurfio â gorchymyn didynnu o enillion. Gall hyn arwain at erlyniad neu ddirwy.
Gall y rhiant dibreswyl (eich gweithiwr) neu yr Asiantaeth Cynnal Plant ofyn am gael gorchymyn didynnu o enillion fel ffordd o dalu'r cynhaliaeth plant sy'n ddyledus, os bydd ffyrdd eraill o gasglu cynhaliaeth plant wedi methu.
Pan fyddwn yn anfon gorchymyn didynnu o enillion atoch ar gyfer un o'ch gweithwyr rhowch ef i'r person yn eich sefydliad sy'n trefnu talu'r cyflog neu bensiwn. Mae'n rhaid i chi ddidynnu'r swm a ddangosir ar y gorchymyn. Bydd y swm yn cynnwys y taliadau cynhaliaeth plant rheolaidd ac unrhyw ôl-ddyledion a allai fod yn ddyledus. Os oes gan un o'ch gweithwyr fwy nag un gorchymyn didynnu o enillion wedi'i osod arnynt, dylai'r didyniadau gael eu tynnu yn ôl trefn y dyddiad.
Unwaith y byddwch wedi anfon yr arian a ddidynnwyd gennych a'i fod wedi clirio yn ein banc, fe fyddwn yn ei basio ymlaen i'r rhiant neu berson sy'n gofalu am y plentyn. Mae'n bwysig ein bod yn derbyn yr arian yn gyflym oherwydd gallai oedi achosi caledi i'r plant hynny sydd â hawl i'r arian hwn.

