HafanCyflogwyrGorchmynion didynnu o enillion › Enghraifft 2 - Cynllun presennol

Enghraifft 2 - Cynllun presennol

Cynllun presennol - Rhif Yswiriant Gwladol a ddefnyddir fel cyfeirnod

Ni ellir cymryd didyniad llawn yn unrhyw gyfnod talu

Wythnos Gyntaf

Caiff enillion net y gweithiwr eu gostwng dros dro i £120 yr wythnos. Y gyfradd ddidynnu yw £32 yr wythnos a’r gyfran enillion gwarchodedig yw £96.

Enillion net £120
Llai’r gyfran enillion gwarchodedig £96

Mae hyn yn gadael £24
Anfonwch £24 atom

Gallwch gadw hyd at £1 tuag at eich costau gweinyddol. Mae’r swm hwn yn ychwanegol at y gorchymyn didynnu o enillion er ei fod yn gostwng incwm y person atebol o dan y gyfran enillion gwarchodedig. Caiff y diffyg o £8 ei ddwyn ymlaen i’r cyfnod talu nesaf.

Mewn unrhyw gyfnod talu os nad oes digon o enillion net i gymryd didyniad llawn, dylech ddwyn y diffyg ymlaen. Dylech ychwanegu at y didyniad i’w gymryd ar gyfer y cyfnod talu nesaf.

Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd achosion lle gellir dwyn y diffyg yn y gyfradd ddidynnu ymlaen am sawl wythnos cyn cael ei ad-dalu. Bydd angen i chi gadw cofnod o unrhyw ddiffyg parhaus.

Ail Wythnos

Mae enillion net y gweithiwr yn £160 yr wythnos hon. Y gyfran enillion gwarchodedig yw £96 a'r gyfradd ddidynnu arferol yw £32.

Enillion net £160
Llai’r gyfran enillion gwarchodedig £96

Mae hyn yn gadael £64
Anfonwch £40 atom
(£32 + £8 o ddifyg)

Gallwch gadw hyd at £1 tuag at eich costau gweinyddol. Mae’r swm hwn yn ychwanegol at y gorchymyn didynnu o enillion.