HafanCyflogwyrGorchmynion didynnu o enillion › Enghraifft 2 - Hen gynllun

Enghraifft 2 - Hen gynllun

Hen Gynllun - (adnabyddir gan rif cyfeirnod deg digid)

Yr wythnos gyntaf

Os bydd:

  • enillion net y gweithiwr yn £120 yr wythnos,
  • y gyfradd ddidynnu arferol yw £30 yr wythnos,
  • a fyddai’n gadael £90 yr wythnos,
  • y gyfradd enillion gwarchodedig yw £100 yr wythnos.

Byddwch yn didynnu £20 yn unig a dwyn ymlaen y £10 sy’n ddyledus i’r cyfnod talu nesaf.

Yr ail wythnos

Os bydd:

  • enillion net y gweithiwr yn £80 yr wythnos,
  • y gyfradd ddidynnu arferol yw £30 + £10 o’r wythnos gyntaf = £40,
  • a fyddai’n gadael £40,
  • y gyfradd enillion gwarchodedig yw £100 yr wythnos.

Ni fyddwch yn gwneud didyniad gan fod y swm sydd ar ôl o dan eu cyfradd enillion gwarchodedig. Byddwch yn dwyn ymlaen y £40 sy'n ddyledus i’r wythnos nesaf.

Hefyd, oherwydd bod cyflog net y gweithiwr yr wythnos hon yn £20 o dan eu cyfradd enillion gwarchodedig, byddwch yn ychwanegu y £20 hwn at gyfradd enillion gwarchodedig yr wythnos nesaf.

Y drydedd wythnos

Os bydd:

  • enillion net y gweithiwr yn £130 yr wythnos,
  • y gyfradd ddidynnu arferol yw £30 + £40 wedi’i ddwyn ymlaen o’r ail wythnos = £70,
  • a fyddai’n gadael £60,

y gyfradd enillion gwarchodedig yw £100 yr wythnos + £20 wedi’i ddwyn ymlaen o’r ail wythnos = £120.

Dim ond £10 yn unig fuasech yn gallu ei ddidynnu oddi wrth eich gweithiwr (oherwydd y gyfradd enillion gwarchodedig uwch). Dylech anfon hwn atom a dwyn ymlaen y £60 sy’n ddyledus i’r wythnos nesaf.

Y bedwaredd wythnos

Os bydd:

  • enillion net y gweithiwr yn £150 yr wythnos,
  • y gyfradd ddidynnu arferol yw £30 + £60 wedi’i ddwyn ymlaen o’r drydedd wythnos = £90,
  • a fyddai’n gadael £60,
  • y gyfradd enillion gwarchodedig yw £100.

Byddwch yn gallu didynnu £50 a dwyn ymlaen y £40 sy'n ddyledus i’r cyfnod talu nesaf. Gan fod eu cyflog net yn uwch na’r gyfradd enillion gwarchodedig nid oes ôl-ddyledion o enillion gwarchodedig i ddwyn ymlaen.

Mae’r enghreifftiau yn dangos y gall y swm o gynhaliaeth plant sy’n ddyledus gan y gweithiwr a’r lefel o’u henillion gwarchodedig gael eu cymhwyso os bydd eu henillion yn amrywio.

Os bydd enillion net y gweithiwr yn mynd o dan eu cyfradd enillion gwarchodedig yn gyson efallai bydd angen newid yr asesiad cynhaliaeth plant. Dylent gysylltu â ni i ddweud am y newid mewn amgylchiadau.