HafanCyflogwyrGorchmynion didynnu o enillion › Enghraifft 3 - Cynllun presennol

Enghraifft 3 - Cynllun presennol

Cynllun presennol - Rhif Yswiriant Gwladol a ddefnyddir fel cyfeirnod

Ni ellir didynnu

Wythnos gyntaf

Caiff enillion net y gweithiwr eu gostwng dros dro i £90 yr wythnos. Y gyfradd ddidynnu o enillion yw £32 yr wythnos a’r gyfran enillion gwarchodedig yw £96.

Enillion net yw £90
Llai’r gyfran enillion gwarchodedig £96

Gadael £0
Anfonwch £0 atom

Ni ddylech gymryd unrhyw beth tuag at gostau gweinyddu am na allwch gymryd didyniad.

Caiff diffyg o £32 ei ddwyn ymlaen i’r cyfnod talu nesaf.

Ail wythnos

Enillion net yw £170
Llai’r gyfran enillion gwarchodedig £96

Gadael £74
Anfonwch £64 atom
(£32 + £32 o ddiffyg)

Gallwch gymryd a chadw hyd at £1 tuag at eich costau gweinyddol. Mae’r swm hwn yn ychwanegol at y gorchymyn didynnu o enillion.

Fel y dangosir o’r enghreifftiau, gellir didynnu symiau gwahanol pan fydd yr enillion yn amrywio.

Os bydd enillion net y rhiant dibreswyl (eich gweithiwr) yn mynd o dan eu cyfradd enillion gwarchodedig yn gyson, dylent gysylltu â ni gan efallai y bydd angen newid eu cyfrif cynhaliaeth plant.