Beth yw enillion net?
Dyma beth sy'n weddill ar ôl didynnu:
- treth incwm
- cyfraniadau yswiriant gwladol dosbarth 1
- cyfraniadau rheolaidd sy'n cael eu talu i gynllun pensiwn cwmni
Nid ydym yn cyfrif y canlynol fel enillion:
- symiau sydd wedi eu talu gan adran gyhoeddus o Lywodraeth Gogledd Iwerddon neu unrhyw wlad arall y tu allan i'r DU
- unrhyw bensiwn nawdd cymdeithasol, lwfans neu fudd-dal
- credydau treth
- unrhyw bensiwn neu lwfans a delir am anabledd
- isafswm pensiwn gwarantedig o fewn Deddf Pensiynau Nawdd Cymdeithasol 1975
- tâl mamolaeth statudol
- tâl tadolaeth statudol
- tâl mabwysiadu statudol
- tâl anghyflogaeth statudol
Dim ond o'r mathau o enillion isod y gellir didynnu ohonynt:
- enillion a chyflog, ffioedd, bonws, comisiwn, tâl goramser neu unrhyw daliad ar ben enillion a chyflog sydd o dan gontract o wasanaethau
- pensiynau preifat neu alwedigaethol a thaliadau iawndal am golled neu ostyngiad o enillion
- tâl salwch statudol
- tâl salwch amodol
- tâl mamolaeth amodol
- tâl anghyflogaeth amodol
Gwybodaeth berthnasol
Ar gyfer cynhaliaeth plant a weithiwyd allan ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003
-
Darllenwch ein taflen "Beth yw fy swyddogaeth wrth helpu fy ngweithwyr i dalu cynhaliaeth plant?" - CSL313w [PDF 780KB]

Ar gyfer cynhaliaeth plant a weithiwyd allan cyn 3 Mawrth 2003
-
Darllenwch ein taflen "Cyngor i Gyflogwyr" - CSA 2002w [PDF 112KB]


