Rydym yn cychwyn cymryd gweithredoedd mwy cyflym a chadarn i wneud mwy o wahaniaeth i fwy o blant.
Gyda chefnogaeth deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym ar 12 Gorffennaf 2006 rydym yn gwneud gwelliannau i'r ffordd rydym yn casglu cynhaliaeth plant.
Beth mae hyn yn ei olygu i gyflogwyr
Er mwyn lleihau y baich ar gyflogwyr ac i wneud casgliadau a thaliadau o gynhaliaeth plant yn fwy effeithiol rydym:
- Yn symleiddio ein prosesau gorchmynion didynnu o enillion. Dim ond un gorchymyn didynnu o enillion a gaiff ei anfon hyd yn oed os bydd arian yn ddyledus gan y gweithiwr o dan yr hen reolau a'r rheolau newydd cynnal plant.
- Lle bo rhiant dibreswyl yn methu cydweithredu i enwebu dull o dalu, byddwn yn cyhoeddi gorchymyn didynnu o enillion ar y cyfle gyntaf a gawn.
- Gallwn nawr weithredu gorchymyn didynnu o enillion lle bo gan rhiant dibreswyl ôl-ddyledion ond dim atebolrwydd am gynhaliaeth gyfredol. Golyga hyn y gallwn gysylltu â rhiant dibreswyl a'u cyflogwyr yn yr achosion hyn. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon gallwn asesu faint o gynhaliaeth plant sy'n ddyledus.
- Gall rhiant dibreswyl nawr ofyn am gael talu cynhaliaeth plant yn wirfoddol trwy ddidyniad o'i enillion. Bydd angen iddynt gytuno hyn gyda'i cyflogwr yn gyntaf lle bo unrhyw gyflogwr yn cael ei orfodi mewn i'r fath gytundeb.
Asiantaethau Casglu Dyled
Rydym nawr yn defnyddio asiantaethau casglu dyled i leoli rhieni dibreswyl ac i gasglu ôl-ddyledion o gynhaliaeth cynnal plant.
I ddechrau, byddwn yn defnyddio dau gwmni a gall eu cynrychiolwyr gysylltu â'r rhiant dibreswyl neu eu cyflogwr.
Maent yn gweithio ar ran yr Asiantaeth a lle bo'n briodol gallant ddefnyddio gorchmynion didynnu o enillion a chymryd dyledwyr o flaen llys ar ein rhan i gael, er enghraifft;
- Gorchymyn Atebolrwydd
- Dyfarniad Llys Sirol
- Gorchymyn Talu
Byddant yn gweithredu o dan gytundeb ffurfiol fydd yn nodi y safon angenrheidiol o wasanaeth ac o ymddygiad. Maent yn rhwymedig i'r un polisi a chyfyngiadau cyfreithiol a'r Asiantaeth Cynnal Plant gan gynnwys ymlynu at Gwarchod Data ac ystyriaeth o les plant.
Gellir ofyn i gyflogwr ddarparu:
- manylion dyddiadau tâl a dyddiadau torbwynt rhestr gyflogau y gweithiwr;
- amlder taliadau'r gweithiwr;
- rhif rhestr gyflogau y gweithiwr/ safle neu deitl ei swydd ;
- cyfeiriad personèl/ rhestr gyflogau y cwmni.
Gwybodaeth berthnasol
Ar gyfer cynhaliaeth plant a weithiwyd allan ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003
-
Darllenwch ein taflen "Beth yw fy swyddogaeth wrth helpu fy ngweithwyr i dalu cynhaliaeth plant?" - CSL313w [PDF 780KB]

Ar gyfer cynhaliaeth plant a weithiwyd allan cyn 3 Mawrth 2003
-
Darllenwch ein taflen "Cyngor i Gyflogwyr" - CSA 2002w [PDF 112KB]


