HafanCyflogwyr › Talu didyniadau

Talu didyniadau

Maen rhaid i chi dalu y swm o gynhaliaeth plant rydych wedii gymryd o gyflog eich gweithiwr. Maen rhaid i hyn gael ei wneud o fewn 19 diwrnod o ddiwedd y mis calendr pryd y gwnaethoch y didyniad. Unwaith y byddwch wedi gwneud y didyniad cyntaf, dylech sefydlu patrwm rheolaidd o daliadau i ni. Golyga hyn na fyddwn yn gorfod cysylltu â chi nach gweithiwr.

Os na wneir hyn, fe allwch gael eich erlyn o dan adran 32(8) o Ddeddf Cynnal Plant 1991.

Talu drwy drosglwyddiad credyd wedii awtomeiddio

Hwn yw ein dull gorau o gasglu taliadau cynhaliaeth plant oherwydd diogelwch ac amseroedd clirio cyflym. Y wybodaeth sydd angen i chi ei darparu ich banc yw:

  • Enw ein cyfrif Cyfrif Cronfa Cleientiaid yr Asiantaeth Cynnal Plant
  • Ein cod didoli or banc 40-34-18
  • Ein rhif cyfrif banc 41775448

Pan yn sefydlu trosglwyddiad credyd wedii awtomeiddio, sicrhewch fod y wybodaeth wedii gosod allan fel yn y tabl isod.

Dylech anfon taliad trosglwyddiad credyd wedii awtomeiddio ar wahân ar gyfer pob un gweithiwr.

Rhif maes BACS Disgrifiad or maes Cynnwys
1 Rhif cod didoli y talai 40-34-18
2 Rhif cyfrif y talai 41775448
3 Cod math o gyfrif y talaiTrans 0
4 Cod deliad 99
5 Rhif cod didolir cychwynnydd Rhif cod didoli banc eich cwmni
6 Rhif cyfrif y cychwynnydd Rhif cyfrif banc eich cwmni
7 Rhydd Heb ei ddefnyddio
8 Swm (mewn ceiniogau) Gwerth y didyniad
9 Enwr defnyddiwr Enw eich cwmni
10 Rhif cyfeirnod y person atebol Gweler Rhifau Cyfeirnod Cleientiaid isod
11 Enw cyfrif y talai CRONFA CLEIENTIAID YR ACP

Maer holl wybodaeth hon yn bwysig ond yn enwedig Maes 10, Rhifau Cyfeirnod Cleientiaid syn hanfodol i sicrhau fod yr arian a ddidynnwch ai anfon atom yn cael ei ddosbarthun gywir. Dylech sicrhau fod y rhif cyfeirnod a ddyfynnir yn y maes hwn yn cael ei gymryd or gorchymyn didynnu o enillion diweddaraf a ddarparwyd gennym ni (cewch hyd i hwn ar ben ochr dde yr hysbysiad hwn). Bydd y rhif cyfeirnod dilys mewn un or ffurfiau canlynol:

Rhif Cyfeirnod Disgrifiad or maes Hyd y Maes Math o Faes Enghraifft
Rhif Yswiriant Gwladol Rhif Yswiriant Gwladol y person atebol 9 Alffaniwmerig NA123456A
Rhif Cyfeirnod Cais person atebol am rif asesiad 12 Rhifol 100123456701
PID Dynodwr personol y person atebol 12 Rhifol 001234567800

Nodwch: Sicrhewch nad ywr rhif cyfeirnod a gofnodwyd yn cynnwys unrhyw gymeriadau ychwanegol (h.y. dyfynodau, llinellau toriad, tanlinellau, atolnodau llawn ac ati.)

Anfon trosglwyddiad credyd wedii awtomeiddio.

Os byddwch yn anfon taliadau trosglwyddo credyd wedii awtomeiddio i gwmpasu didyniadau ar gyfer un neu fwy o bersonau atebol, maen rhaid i chi hefyd anfon atodlen daliadau gorchymyn didynnu o enillion (CSF802W).

Gallwch anfon hon drwyr post at:

Client Fund Account Team
Child Support Agency
Room BP6102 Alnwick House
Benton Park View
Longbenton
Newcastle Upon Tyne
NE98 1YX

Mae copi or atodlen daliadau gorchymyn didynnu o enillion (CSF802W) wedii chynnwys yng nghefn taflen

Gallwch ei defnyddio fel prif gopi i wneud cyn gymaint o gopïau ag y byddwch eu hangen. Cewch gopïau ychwanegol gan y ganolfan a anfonodd y gorchymyn atoch.

Gallwch hefyd gael copi electronig o atodlen y cynllun newydd yma. [PDF 41.7Kb] PDF

Maen rhaid ir atodlen gorchymyn didynnu o enillion gynnwys y manylion canlynol ar gyfer pob person atebol:

  • eu henw llawn (enwau cyntaf a chyfenw);
  • eu rhif cyfeirnod; a
  • swm y didyniad a gymerwyd (mewn punnoedd)

Maen rhaid i swm y trosglwyddiad credyd wedii awtomeiddio fod yr un fath a chyfanswm y didyniad a ddangosir ar atodlen daliadau y gorchymyn didynnu o enillion. (Gweler gordaliadau)

Hyd nes y derbyniwn y wybodaeth hon ni fyddwn yn gwybod ar gyfer pwy maer taliad cynhaliaeth plant. Bydd hyn yn achosi oedi wrth basior arian ir rhiant sydd â gofal am y plentyn.

Bydd ffacsior wybodaeth hon yn golygu y gall taliadau cynhaliaeth plant gael eu prosesun gyflymach.

Talu drwy siec

Gwnewch pob siec yn daladwy ir Asiantaeth Cynnal Plant.

Dylech anfon y siec(iau) ar atodlen daliadau gorchymyn didynnu o enillion ir Ganolfan Asiantaeth Cynnal Plant sydd ar ben y gorchymyn. Maen rhaid ir atodlen daliadau gorchymyn didynnu o enillion restrur wybodaeth ganlynol:

  • enw llawn y gweithiwr (enwau cyntaf a chyfenw):
  • rhif cyfeirnod y gweithiwr; a
  • swm y didyniad a gymerwyd (mewn punnoedd).

Maen rhaid ir swm ar y siec fod yr un fath a chyfanswm y didyniadau a ddangosir ar atodlen daliadau y gorchymyn didynnu o enillion.

Os ydych yn anfon taliadau i fwy nag un Canolfan Asiantaeth Cynnal Plant, cysylltwch ag un or canolfannau i drefnu anfon yr holl daliadau yno.

Gordaliadau

Peidiwch â defnyddior atodlen daliadau gorchymyn didynnu o enillion i adennill neu diddymu gordaliadau blaenorol. Os bu gordaliad, dylech gysylltu âr Tîm Cyfrif Cronfa Cleientiaid am gyngor.

Tandaliadau

Os nad ywr taliad a dderbyniwn yr un fath ar cyfanswm a ddangosir ar yr atodlen daliadau, bydd aelod or Tîm Cyfrif Cronfa Cleientiaid yn cysylltu â chi.

Dileu gorchymyn didynnu o enillion

Os byddwn yn penderfynu terfynu gorchymyn didynnu o enillion, byddwn yn ysgrifennu atoch chi ach gweithiwr. Bydd y llythyr yn dweud wrthych ein bod wedi dileur gorchymyn ac i stopio cymryd didyniadau o ddyddiad y llythyr. Ni ddylech stopio gymryd didyniadau oni pan fyddwn wedi ysgrifennu atoch.

Gwybodaeth berthnasol

Ar gyfer cynhaliaeth plant a weithiwyd allan ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003

Ar gyfer cynhaliaeth plant a weithiwyd allan cyn 3 Mawrth 2003