HafanCyflogwyr › Cwestiwn ac ateb

Cwestiwn ac ateb

Cwestiwn

Pam fod rhifau Yswiriant Gwladol yn ymddangos ar rai orchmynion didynnu o enillion yn lle rhifau cyfeirnod?

Mae gorchmynion didynnu o enillion a anfonir allan gan ddyfynnu rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer achosion newydd a aseswyd o dan y rheolau newydd, a ddaeth i rym o 3ydd Mawrth 2003.Hyd nes y caiff yr holl achosion presennol eu trosglwyddo drosodd i'r cynllun newydd, byddwn yn gweithredu dau gynllun gwahanol. Bydd achosion sy'n dod o dan y cynllun presennol yn parhau i ddyfynnu rhifau cyfeirnod ar y gorchmynion hyd nes cânt eu hail asesu o dan y rheolau newydd. Felly, bydd posibilrwydd y bydd cyflogwyr yn parhau i dderbyn gorchmynion didynnu o enillion lluosog, fydd yn dangos rhifau cyfeirnod gwahanol.

Pam ein bod weithiau yn derbyn mwy nag un gorchymyn didynnu o enillion ar gyfer cyflogai?

Weithiau bydd gan rhiant dibreswyl fwy nag un achos a bydd yn talu cynhaliaeth ar gyfer plant sydd â rhieni â gofal gwahanol. Os bydd ganddynt achosion lluosog wedi'u cyfrifo o dan y rheolau newydd yna ni fydd byth ond un gorchymyn didynnu o enillion yn unig a bydd yn dangos y rhif Yswiriant Gwladol. Byddwch yn gwneud un taliad i'r Asiantaeth a byddwn yn rhannu'r taliad rhwng y plant perthnasol wedi i ni ei dderbyn

Ar gyfer achosion lluosog a wnaed o dan yr hen reolau cyn mis Mawrth 2004, efallai y byddwch yn derbyn mwy nag un gorchymyn didynnu o enillion ar gyfer gweithiwr, a bydd yn dangos y rhif cyfeirnod 10-rhif; bydd gofyn i chi wneud taliad am bob un gorchymyn sydd gennych ar gyfer bob gweithiwr. Os ydy'ch cyflogres eisoes wedi'i gosod gyda atodlenni talu, efallai y bydd rhaid newid y rhain er mwyn sicrhau y caiff y didyniadau cywir eu gwneud.

Beth yw fy swyddogaeth wrth helpu fy ngweithwyr i dalu cynhaliaeth plant? [PDF 780Kb] PDF

Mae cyflogai wedi dweud wrthyf y bydd yn cael gorchymyn didynnu o enillion. A ddylwn ddechrau didynnu tra'n aros am eich cadarnhâd?

Dylai'r cyflogwr bob tro aros i glywed gan yr Asiantaeth Cynnal Plant ynglyn â'r swm y dylent ei gymryd o gyflog y rhiant dibreswyl. Mae hyn oherwydd ein bod weithiau yn cymryd amser rhwng gwneud cyfrifiad a rhoi gwybod am atodlen dalu. Os bydd y cyflogwr yn didynnu'r hyn a nodir ar hysbysiad y rhiant dibreswyl, mae'n bosibl y bydd y swm anghywir yn cael ei ddidynnu. Bydd hynny'n arwain at gyswllt pellach rhwng yr Asiantaeth Cynnal Plant a chyflogwyr, a gallai hyn fod wedi cael ei osgoi.

Beth yw rhif cyfeirnod?

Mae rhif cyfeirnod yn ddynodwr unigryw, sy'n bersonol i gleient yr Asiantaeth Cynnal Plant.

Pryd y dylid defnyddio rhif cyfeirnod?

Dylid defnyddio'r rhif cyfeirnod cywir pan yn anfon taliadau neu unrhyw ohebiaeth at yr Asiantaeth.

Pam fod mwy nag un rhif cyfeirnod?

Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu dau gynllun, un ar gyfer achosion a aseswyd o dan yr hen reolau cyn mis Mawrth 2003 ac un ar gyfer achosion o dan y rheolau newydd. Defnyddir rhif cyfeirnod i adnabod achosion yr hen reolau a rhif Yswiriant Gwladol i adnabod achosion y rheolau newydd.

Pam ei bod yn bwysig defnyddio'r rhif cyfeirnod cywir?

Bydd hyn yn sicrhau y gall taliadau a gohebiaeth gael eu gweithredu a'u prosesu'n awtomatig cyn gynted ag yr anfonir hwy at yr Asiantaeth Cynnal Plant, sy'n golygu y caiff cynhaliaeth plant ei thalu i'r Rhiant â Gofal cyn gynted â phosibl. Bydd dyfynnu rhifau cyfeirnod anghywir yn peri oedi wrth i ni wario amser yn cysylltu'r taliadau a'r cleientiaid gyda'i gilydd.

Pa rif cyfeirnod ddylwn ei ddefnyddio?

Rheol syml yw defnyddio'r rhif mwyaf diweddar a nodwyd yn y llythyr olaf a anfonwyd atoch.

Oes angen i ni hysbysu unrhyw un os bydd cyflogai sydd â gorchymyn didynnu o enillion yn gadael ein cyflogaeth, ac os felly, sut?

Os bydd gweithiwr yn gadael, bydd yn rhaid i chi hysbysu'r Asiantaeth o fewn 10 niwrnod o'r dyddiad hwnnw. Os byddwch yn cysylltu â ni drwy lythyr, anfonwch hwn i'r Ganolfan Asiantaeth Cynnal Plant a anfonodd y gorchymyn didynnu o enillion atoch. Os byddwch yn ein ffonio, defnyddiwch y Llinell Gymorth Gymraeg ar 08457 138 091.

A ddylai gorchymyn didynnu o enillion ddangos gwerth ariannol ar gyfer y swm o enillion a ddiogelir ynteu canran (60%)?

Mae'n rhaid i'r Asiantaeth anfon y didyniad o enillion allan gyda swm ariannol (ar gyfer enillion a ddiogelir). Os byddwch yn derbyn gorchymyn nad yw'n cynnwys swm ariannol, dylech gysylltu â'r Ganolfan Asiantaeth Cynnal Plant a anfonodd y gorchymyn atoch, a gofyn iddynt anfon gorchymyn diwygiedig atoch. Dylech ddychwelyd y gorchymyn anghywir i'r Ganolfan Asiantaeth Cynnal Plant o ble cawsoch y gorchymyn gwreiddiol.

Gwybodaeth berthnasol

Ar gyfer cynhaliaeth plant a weithiwyd allan ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003

Ar gyfer cynhaliaeth plant a weithiwyd allan cyn 3 Mawrth 2003