HafanCyflogwyrGorchmynion didynnu o enillion › Didyniadau gwirfoddol o enillion

Didyniadau gwirfoddol o enillion

Didyniad gwirfoddol o enillion

Gall rhiant dibreswyl ofyn i'w gynhaliaeth plant gael ei dalu'n uniongyrchol o'i enillion. Rydym yn galw'r trefniadau hyn yn drefniadau didynnu o enillion gwirfoddol. Maent yn gweithredu yn yr un modd a didyniadau gwirfoddol eraill fel tanysgrifiadau undeb ac ad-daliadau benthyciad.

  • Nid oes cyfradd neu chyfran enillion gwarchodedig. Rydych yn didynnu'r swm a fynegir ar gyfer pob cyfnod tâl sy'n golygu nad oes isafswm y dylai'ch gweithiwr ei gael yn weddill.
  • Nid oes angen cario unrhyw ddiffyg ymlaen o gyfnod tâl blaenorol.
  • Mae'r trefniadau hyn yn wirfoddol felly nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnoch i wneud y taliadau a ofynnir. Fodd bynnag, efallai bydd casglu taliadau fel hyn yn ein gwahardd rhag gorfod gosod gorchymyn didynnu o enillion yn y dyfodol.
  • Mae gennych yr hawl i godi tâl gweinyddol ond dylai trafod hyn â'ch gweithiwr.