Rhyddid gwybodaeth

Mae'r dudalen hon yn egluro ein polisi Rhyddid Gwybodaeth.


Rhyddid Gwybodaeth - beth yw hyn?

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Y Ddeddf) yn rhoi hawl cyfreithiol i unrhyw unigolyn gael gafael ar wybodaeth sydd yn cael ei chadw gan unrhyw awdurdod cyhoeddus.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth y Ddeddf gan gynnwys pa fath o wybodaeth sy'n eithriedig ar wefan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

I bwy y mae Rhyddid Gwybodaeth yn gymwys?

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gymwysedig i bob corff cyhoeddus gan gynnwys cyrff cyhoeddus anadrannol fel y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant.

Beth yw'r Hawliau Gweld?

Gall unrhyw un (p'un ai unigolyn neu gorfforaeth fel cwmni preifat) wneud cais am gael gafael ar neu gael gweld unrhyw wybodaeth cofnodedig sydd gan y Comisiwn. Golyga hyn y gallai'r holl wybodaeth a gedwir gan y Comisiwn gael ei rhyddhau, waeth ar ba ffurf y caiff ei chadw, er enghraifft ffeiliau papur cofnodedig; dogfennau electronig; llyfrau nodiadau neu gasgliadau o bapurau amrywiol ac ati.

Ni fydd y rheswm am y cais, os rhoddir un, yn cael ei ystyried wrth benderfynu os caiff gwybodaeth benodol ei rhyddhau neu ai hatal. Os na fydd rheswm wedi'i roi, ni fyddwn yn gofyn i chi pam bod angen y wybodaeth.

Mae'r Ddeddf hefyd yn mynnu eich bod yn cael gwybod os yw'r wybodaeth rydych ei heisiau yn bodoli ai peidio, ond eto mae'n dod o dan reolaeth eithriadau penodedig.

Gallwch nodi sut yr hoffech dderbyn y wybodaeth er enghraifft copi, crynodeb neu i gael archwilio'r union gofnod. Bydd y Comisiwn yn gwneud ymdrech i gydymffurfio â'ch gofyniad.

Mae'r Ddeddf yn gwbl wrtholygol. Golyga hyn y gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth sydd gan y Comisiwn heb ystyried ei hoedran. Er enghraifft, o dan y Ddeddf gellir gofyn am wybodaeth sy'n gynwysedig mewn dogfen a grëwyd yn 1999 er i'r Ddeddf ond dod i rym ar 1af Ionawr 2005.

Sut gallaf wneud cais am wybodaeth

Mae llawer o wybodaeth yn cael ei darparu'n barod fel mater o drefn gan weithwyr wrth ymdrin ag achos cynhaliaeth plant. Yn y lle cyntaf, dylech ofyn i'r unigolion hyn am wybodaeth gyffredinol gan gynnwys taflenni a dogfennau eraill a ddarperir gan y Comisiwn, manylion cyswllt, oriau agor neu fanylion gwasanaethau mae'r Comisiwn yn darparu ar gyfer y cyhoedd. Os na ellir ateb eich cais fel hyn, yna gallwch ysgrifennu at:

Freedom of Information Focal Point
The Child Maintenance and Enforcement Commission
PO Box 61791
Llundain
SW1P 9NT

Yn eich cais ysgrifenedig, bydd angen i chi allu rhoi disgrifiad eglur o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch a bydd angen i chi gynnwys y wybodaeth ganlynol fel y gallwn eich ateb:

  • eich enw
  • cyfeiriad gohebu (bydd cyfeiriad e-bost yn dderbyniol)

Dylai ateb gael ei anfon atoch o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw eich cais yn un cymhleth efallai bydd angen rhagor o amser arnom. Os bydd hyn yn digwydd rhown wybod i chi o fewn yr amserlen gwreiddiol a rhown amcan o bryd y gallwn gydymffurfio â'ch cais.

Gwybodaeth Bersonol

Mae'n bwysig cofio nad yw Rhyddid Gwybodaeth yn ymestyn i ddarparu gwybodaeth bersonol y gall y Comisiwn fod yn cadw amdanoch. Dylai ceisiadau o'r fath gael eu gwneud o dan ddarpariaeth y Ddeddf Diogelu Data 1998. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Comisiwn a'r Ddeddf Diogelu Data.

Beth fydd yn digwydd os na all y Comisiwn ddarparu'r wybodaeth a ofynnir amdani?

Efallai na fydd y wybodaeth rydych wedi gofyn amdani gan y Comisiwn, os bydd hyn yn digwydd dywedwn wrthych o fewn 20 diwrnod. Fel arall, mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys nifer o eithriadau i'r hawl am gael gweld gwybodaeth.

Rhaid ystyried y rhan fwyaf o eithriadau mewn dau gam:

  • yn gyntaf a yw'r eithriad yn briodol i ran o'r wybodaeth a ofynnir amdani neu i'r wybodaeth i gyd, ac os yw,
  • a yw'n fwy buddiol i'w rhyddhau i'r cyhoedd na gwrthod ?

Golyga hyn os bydd y wybodaeth rydych wedi gofyn amdani yn 'eithriedig', efallai byddwn yn parhau i'w darparu i chi.

Fodd bynnag, mae ambell wybodaeth yn 'llwyr' eithriedig. Yn yr achosion hyn nid yw'r wybodaeth ar gael i'r cyhoedd o gwbl. Gellir cael rhestr o eithriadau a r wefan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Os na allwn drin eich cais byddwn yn anfon llythyr atoch i egluro pa eithriad y credwn sy'n berthnasol i'r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani a pham mae'n addas.

Ai dyna fydd ddiwedd y mater?

Na, os ydych dal yn anfodlon gyda'n penderfyniad gallwch ofyn i ni edrych ar ein penderfyniad eto. Caiff yr adolygiad hwn ei wneud gan aelod o staff arall o'r Comisiwn nad oedd yn rhan o'r broses penderfynu gwreiddiol. Bydd y person hwn o radd uwch na'r person a benderfynodd ar eich cais gwreiddiol. Bydd eich cais yn cael ei edrych arno o'r dechrau a byddwch yn cael eich diweddaru yn ysgrifenedig o'u penderfyniad. Gall hyn fod i ategu'r penderfyniad gwreiddiol neu ei wrthdroi. Bydd unrhyw wybodaeth y teimlwn gallwn ei darparu yn cael ei chynnwys yn ein hymateb.

Gyda phwy y dylwn gysylltu er mwyn gofyn am adolygiad?

Dylech gysylltu â'r person a ysgrifennodd yr ymateb i'ch cais. Bydd y person hwnnw yn sicrhau bod y papurau sy'n berthnasol i'ch cais yn cael eu pasio ymlaen at y person sy'n gyfrifol am yr adolygiad.

Beth os fyddaf dal yn anfodlon?

Os ydych dal yn anfodlon ar ôl i ni edrych ar eich cais eto, gallwch ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth ymchwilio i'ch cais. Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gweithredu'n annibynnol, wedi'i apwyntio gan Ei Mawrhydi'r Frenhines ac yn ymateb yn uniongyrchol i'r Senedd. Mae ganddo hawl i weld yr holl bapurau sy'n berthnasol i'ch cais ac yn penderfynu os yw ein penderfyniad yn cwrdd â gofynion y Ddeddf. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Chwilio am Wybodaeth

Mae'r Comisiwn eisoes yn cyhoeddi'r wybodaeth a ofynnir amdani gan amlaf ar ein gwefan. Edrychwch ar y tudalennau yn yr adran 'Amdanom ni' a 'Cyhoeddiadau' i gael manylion am ba wybodaeth sy'n cael ei chyhoeddi yn rheolaidd. Os nad yw'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gael yno, defnyddiwch y Darganfyddwr Gwybodaeth i ddod o hyd i'r wybodaeth na chaiff ei chyhoeddi'n rheolaidd ar y wefan - er enghraifft, canllawiau mewnol am ein gweithdrefnau at ddefnydd ein staff.

Mae'r Darganfyddwr Gwybodaeth yn rhestru'r wybodaeth sydd ar gael am y pynciau canlynol ac yn rhoi cyfarwyddiadau am sut i gysylltu â'n Canolbwynt Rhyddid Gwybodaeth er mwyn trefnu i roi'r wybodaeth i chi.

Pynciau

  • Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud - Gwybodaeth am ein trefniadaeth, strwythur, safleoedd a chytundebau.
  • Faint rydym yn ei wario ac ar beth gaiff ei wario - Gwybodaeth ariannol am wir incwm a gwariant yn ogystal ag incwm a gwariant rhagamcanol , pwrcasu, cytundebau ac archwiliadau ariannol.
  • Ein blaenoriaethau a'n perfformiad - Strwythurau a chynlluniau, mesurau perfformio, archwiliadau, arolygon ac adolygiadau ariannol.
  • Gwneud penderfyniadau - Prosesau gwneud penderfyniadau a chofnodi penderfyniadau.
  • Ein polisïau a gweithdrefnau - datganiadau ysgrifenedig ar gyfer cyflawni gwasanaethau a chyfrifoldebau
  • Rhestrau a chofrestrau
  • Ein gwasanaethau - Gwybodaeth am y gwasanaethau a gynigwn ar hyn o bryd gan gynnwys taflenni, canllawiau a hysbyslenni a gynhyrchir.

Rydym wedi rhoi'r penawdau hyn i'r pynciau oherwydd:


Nodwch: Ar hyn o bryd, rydym yn y broses o ddatblygu'r Darganfyddwr Gwybodaeth, bydd mwy o wybodaeth am beth y gallwn ei ddarparu a sut gallwn ei ddarparu ar gael yn fuan.

Yn y cyfamser, os bydd gennych unrhyw ymholiadau am wybodaeth a ddarperir gennym yn rheolaidd, gallai ein staff sy'n delio gydag achosion cynhaliaeth plant eich helpu. Os na ellir ateb eich cais fel hyn, gallwch ysgrifennu i'r:

Freedom of Information Focal Point
The Child Maintenance and Enforcement Commission
PO Box 61791
London
SW1P 9NT

Neu, anfonwch e-bost atom foi.focalpoint@childmaintenance.gsi.gov.uk