Acas
Acas yw'r gwasanaeth cysylltiadau cyflogaeth ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban, sy'n cynnig cyngor
ymarferol, annibynnol a diduedd i gyflogwyr, cyflogeion a'u cynrychiolwyr. Mae Acas yn annog pobl
i gydweithio'n effeithiol, a'i nod yw hyrwyddo arfer da yn y gweithle yn ogystal â helpu i ddatrys
anghydfodau.
www.acas.org.uk
Y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol
Mae'r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol yn rhaglen wirfoddol wedi'i chynllunio'n benodol i helpu
rhieni unigol sydd eisiau gweithio. Mae ar gael i bob rhiant unigol nad yw'n gweithio neu sy'n gweithio
llai na 16 awr yr wythnos ac fe'i gweithredir drwy swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith a Chanolfannau Gwaith.
www.jobcentreplus.gov.uk
Credyd treth gwaith / Credyd treth plant
Mae hyn ar gyfer cyplau neu unigolion sydd â phlant ganddynt, a lle bo un person yn gweithio 16 awr neu fwy
yr wythnos, cyplau neu unigolion sydd heb blant a lle bo un person dros 25 mlwydd oed ac yn gweithio 30 awr
neu fwy yr wythnos, cyplau neu unigolion lle bo person sy'n 50 mlwydd oed neu'n hŷn wedi dod oddi ar
fudd-daliadau er mwyn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy (p'un ai oes ganddynt blant ai peidio)
www.taxcredits.inlandrevenue.gov.uk

