HafanCysylltiadau › Budd-daliadau

Budd-daliadau

Carers UK


Gwybodaeth, cymorth a chyngor i Ofalwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys manylion am gymorth y gallai fod gennych hawl iddo, gwybodaeth am gydbwyso gofal a gwaith cyflogedig. Cyngor ar ba gymorth sydd ar gael os ydych yn gweithio ac yn gofalu am rywun, neu os hoffech ddychwelyd i waith cyflogedig.
www.carerswales.org

Budd-dal Plant


Bellach, gallwch hawlio Budd-dal Plant a chofnodi newid yn eich amgylchiadau ar-lein.
www.hmrc.gov.uk

Cronfa Ymddireidolaeth Plant


Cyflwynwyd y Gronfa ymddiriedolaeth plant gan y Llywodraeth er mwyn eich helpu i gynilo at ddyfodol eich plentyn. Math newydd o gyfrif cynilo a buddsoddi tymor hir yw'r Gronfa ymddiriedolaeth plant ar gyfer plant a aned ar neu ar ôl y 1af Medi 2002, ac sy'n gymwys i gael Budd-dal Plant. Bydd y Llywodraeth yn anfon taleb am £250 atoch, os ydych yn gymwys, er mwyn rhoi hwb cychwynnol i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eich plentyn.
www.ctfhelp.com

Canolfan Cyngor Ar Bopeth


Mae'n darparu cyngor annibynnol, am ddim ar lawer o faterion gan gynnwys cynnal plant.
www.citizensadvice.org.uk

DIAL UK


Mae DIAL UK yn sefydliad cenedlaethol ar gyfer rhwydwaith o 160 o wasanaethau Llinell Gyngor a Gwybodaeth am Anabledd (DIALs) lleol sy'n cael eu rhedeg gan ac ar gyfer pobl anabl. Mae gwasanaethau gwybodaeth a chyngor DIAL yn darparu gwybodaeth a chyngor i bobl anabl a phobl eraill ar bob agwedd ar fyw gydag anabledd.
www.dialuk.info

Credyd Pensiwn


Mae Credyd Pensiwn yn sicrhau isafswm incwm i bawb sy'n 60 oed neu'n hŷn
www.pensiynau.gov.uk

Credydau Treth


Credyd Treth Plant:
Gallwch hawlio Credyd Treth Plant os ydych yn gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc. Nid oes rhaid i chi fod mewn gwaith i wneud cais.

Credyd Treth Gwaith:
Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc gallwch wneud cais am Gredyd Treth Gwaith os ydych yn 16 oed neu'n hyn a'ch bod yn gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos. Os nad oes gennych blant gallwch mewn rhai amgylchiadau penodol barhau i wneud cais am Gredyd Treth Gwaith.
www.hmrc.gov.uk