HafanCysylltiadau › Newid teulu

Newid teulu

Families Need Fathers


Mae Families Need Fathers (FNF) yn elusen gofrestredig sy'n darparu gwybodaeth a chymorth i rieni, neiniau a theidiau ac aelodau eraill y teulu yn ogystal â ffrindiau. Mae Families Need Fathers yn sefydliad i rieni, mae'n canolbwyntio'n bennaf ar y problemau o sicrhau fod gan y plentyn berthynas â'r ddau riant yn ystod ac ar ôl i'r teulu chwalu. Mae FNF yn cynnal grwpiau hunan-gymorth a grŵpiau gwybodaeth a llinell gymorth genedlaethol, yn ogystal â darparu gwybodaeth a digonedd o brofiad.
www.fnf.org.uk

Gingerbread / Bara Sinsir


Sefydliad cymorth ar gyfer teuluoedd un rhiant unigol yng Nghymru a Lloegr.
www.gingerbread.org.uk

One Parent Families (the National Council for One Parent Families yn flaenorol)


Teuluoedd Un Rhiant yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n cynrychioli rhieni unigol a'u plant yng Nghymru a Lloegr.
www.oneparentfamilies.org.uk

One Parent Families Scotland


Cyngor, gwybodaeth a chymorth ar gyfer teuluoedd un rhiant yn yr Alban.
www.opfs.org.uk

Parentline Plus


Mae Parentline Plus yn elusen gofrestredig yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnig cymorth i unrhyw un sy'n magu plentyn - p'un a yw'n rhiant, yn llys-riant, yn nain neu'n daid neu'n riant maeth. Mae Parentline Plus yn rhedeg llinell gymorth rhadffôn, cyrsiau i rieni ac mae'n datblygu prosiectau arloesol ac yn darparu ystod o wybodaeth.
www.parentlineplus.org.uk

Parentline Scotland


Mae Parentline Scotland ar gael i unrhyw riant, neu oedolyn arall sy'n gofalu am neu'n bryderus am blentyn yn Yr Alban. Maent yn cynnig gwasanaeth ffôn cyfrinachol yn rhad ac am ddim, er mwyn gwrando neu helpu y rhai hynny sy'n galw i ddod o hyd i ffordd o ddatrys unrhyw broblem neu bryder yn ymwneud â phlentyn neu blant.
www.children1st.org.uk

Soldiers, Sailors, Airmen and Families Association


Yr elusen filwrol genedlaethol sy'n helpu pobl sydd mewn angen sy'n gwasanaethu yn y lluoedd ar hyn o bryd neu a fu'n gwasanaethu, yn ogystal â'u teuluoedd.
www.ssafa.org.uk

Stepfamily Scotland


Mae Stepfamily Scotland yn gweithio i ddarparu cymorth a gwybodaeth i aelodau llys-deuluoedd a'r rheiny sy'n gweithio gyda hwy.
www.stepfamilyscotland.org.uk