HafanCysylltiadau › Plant

Plant

Childcarelink


Mae Childcarelink yn sefydliad sy'n darparu gwybodaeth am ddewisiadau gofal plant. Maent yn darparu llinell wybodaeth genedlaethol yn rhad ac am ddim, ac yn rhoi gwybodaeth cyfrinachol a di-duedd.
www.childcarelink.gov.uk

Family Rights Group


Sefydlwyd Family Rights Group (FRG) fel elusen gofrestredig ym 1974 i ddarparu cyngor a chymorth i deuluoedd y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â'u plant. Mae FRG yn gweithio i wella'r gwasanaethau y mae'r teuluoedd hyn yn eu derbyn.
www.frg.org.uk

NSPCC


Yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant) yw elusen fwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig sy'n arbenigo mewn diogelu plant ac atal creulondeb i blant. Mae wedi ymwneud yn uniongyrchol â diogelu plant ac ymgyrchu ar ran plant ers 1884.
www.nspcc.org.uk

Young Minds


Mae Young Minds yn sefydliad sy'n ymwneud â iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae gan y wefan wybodaeth ar gyfer oedolion sy'n pryderu am les unrhyw berson ifanc. Mae'r gwasanaethau ar gael i rieni, neiniau a theidiau, athrawon, cwnselwyr a phobl broffesiynol eraill. Hefyd, cynhwysir gwybodaeth ar amrywiaeth eang o bynciau wedi'i hanelu at blant a phobl ifanc eu hunain.
www.youngminds.org.uk