HafanCysylltiadau › Cwnsela / cyfryngu

Cwnsela / cyfryngu

Family Mediation Scotland


Mae cyfryngu teuluol yn broses wirfoddol sy'n rhoi'r cyfle i rieni sy'n gwahanu neu sy'n byw ar wahân i wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer dyfodol eu plant. Gall dod i gytundeb drwy gyfryngu olygu osgoi negodi hirfaith drwy gyfreithwyr neu anghydfodau yn y llysoedd.
www.familymediationscotland.org.uk

National Family Mediation


Mae National Family Mediation (NFM) yn rhwydwaith o fwy na 60 o Wasanaethau Cyfryngu Teuluol lleol yng Nghymru a Lloegr sy'n cynnig helpu cyplau priod neu ddi-briod sydd yn y broses o wahanu ac ysgaru. Mae'n ymroi i ddarparu gwasanaeth cyfryngu i bawb sydd ei angen ym mhob cymuned.
www.nfm.u-net.com

Relate


Relate yw sefydliad cwnsela perthnasau mwyaf y DU, a'r un mwyaf profiadol. Ers dros 60 mlynedd mae wedi bod yn helpu pobl i weithio drwy anawsterau mewn perthnasau ac i ddod i'w penderfyniadau eu hunain ynglŷn; â'r ffordd orau i symud ymlaen.
www.relate.org.uk

UK College of Family Mediators


Am wybodaeth gyffredinol ynglŷn; â chyfryngu teuluol, sut i gysylltu â chyfryngwr teuluol ac ynglŷn; â Choleg Cyfryngu Teuluol y Deyrnas Unedig gyda gwybodaeth am hyfforddi i fod yn gyfryngwr teuluol a thudalennau o ddiddordeb proffesiynol i gyfryngwyr teuluol ac aelodau Coleg y Deyrnas Unedig.
www.ukcfm.co.uk