HafanCysylltiadau › Dyled

Dyled

Canolfan Cyngor Ar Bopeth


Mae'n darparu cyngor annibynnol, am ddim ar lawer o faterion gan gynnwys cynnal plant.
www.citizensadvice.org.uk

Consumer Credit Counselling Service


Mae'r gwasanaeth cwnsela ar ddyled hwn yn addas i unrhyw un sydd â dyledion, yn bennaf y rheiny gyda digon o incwm i gymryd rhan mewn cynllun talu dyled. Dylai cleientiaid ar incwm isel iawn gan gynnwys y rhai ar fudd-daliadau fynd at eu Canolfan Cyngor ar Bopeth neu'r National Debt Line.
www.cccs.co.uk

Money Advice Scotland


Bydd Money Advice Scotland yn cyfeirio galwyr at asiantaethau cynghori lleol yn eu hardal. Hefyd mae cyfeirlyfr o ganolfannau cyngor ariannol yn Yr Alban ar gael ganddynt.
www.moneyadvicescotland.org.uk

National Debtline/Llinell Ddyledion Genedlaethol


Mae'r Llinell Dyledion Genedlaethol yn llinell ffôn genedlaethol ar gyfer pobl sydd â phroblemau yn ymwneud â dyledion yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Rydym yn rhoi cyngor arbenigol dros y ffôn a drwy neges e-bost ac rydym yn anfon pecyn gwybodaeth hunan-gymorth, rhad ac am ddim at bobl sydd mewn dyled. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn annibynnol. Rhadffôn 0808 808 4000. Oriau agor: dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 9pm, dydd Sadwrn 9.30am i 1pm, peiriant ateb 24 awr neu anfonwch neges e-bost at advice@nationaldebtline.co.uk
www.nationaldebtline.co.uk