Termau ac amodau

Mae'r dudalen hon yn egluro'r telerau ac amodau i ddefnyddio gwefan yr Asiantaeth Cynnal Plant.

Rheolir gwefan yr Asiantaeth Cynnal Plant ('y wefan') gan dîm cyfathrebiaeth electronig yr Adran sef DWP e-Communications (a gyfeirir atynt fel 'Ni' neu 'Ein' isod). Drwy ymweld â'r wefan hon rydych Chi fel defnyddiwr (a gyfeirir atoch fel 'Chi' neu 'Eich') yn derbyn Ein termau ac amodau.

Defnyddio gwefan yr Asiantaeth Cynnal Plant

Cynhelir y wefan ar gyfer eich defnydd personol chi. Drwy ymweld a defnyddio'r wefan hon sy'n cynnwys y termau ac amodau hyn, golyga hynny Eich bod Chi yn derbyn y termau a'r amodau hyn. Maent yn effeithiol o'r dyddiad cyntaf yr ymwelwch â'r wefan hon.

Cofiwch mai dim ond canllaw gyffredinol i wasanaethau'r Asiantaeth Cynnal Plant yw'r wefan hon, nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodol o'r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i wneud yn sicr bod yr holl wybodaeth sydd ar gael ar y wefan hon yn gywir.

Rydych Chi yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon ar gyfer dibenion cyfreithiol yn unig ac mewn ffordd nad yw'n torri ar hawliau unrhyw drydydd parti nac yn gwahardd na rhwystro eu defnydd neu fwynhad o'r wefan hon. Mae gwaharddiad neu rwystrad o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngder, ymddygiad sy'n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu ar unrhyw berson neu arwain at anghyfleuster iddynt yn ogystal â throsglwyddo unrhyw gynnwys anllad neu dramgwyddus neu darfu ar y lli arferol o ohebiaeth o fewn y wefan hon.

Gwaherddir Chi rhag defnyddio'r wefan hon i bostio neu drosglwyddo unrhyw ddefnydd anghyfreithlon, absennus, anllad, tramgwyddus neu warthus, neu unrhyw ddefnydd sy'n golygu neu yn annog ymddygiad a fyddai'n cael ei ystyried yn droseddol, ac a fyddai'n debygol o arwain at ateboliaeth sifil, neu a fyddai'n torri'r gyfraith mewn unrhyw ffordd. Byddwn yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw awdurdodau sy'n gorfodi'r gyfraith neu unrhyw orchymyn llys sy'n gofyn neu'n gorchymyn yn gyfreithiol i ni ddatguddio pwy yw unrhyw un sy'n postio unrhyw wybodaeth neu ddefnydd o'r fath ar y wefan.

Caiff gwybodaeth a gesglir gennym Ni ei defnyddio ar gyfer archwiliad mewnol er mwyn:

  • gwella cynnwys y wefan
  • addasu cynnwys a/neu ddyluniad y wefan
  • hysbysu defnyddwyr (gyda'u caniatâd) o ddiweddariadau i'r wefan.

Ni chaiff gwybodaeth a gesglir ei rhannu gyda chyrff eraill at ddibenion masnachol.


Cysylltu â'r wefan

Mae gwefan yr Asiantaeth Cynnal Plant yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu i'r wybodaeth a gynhelir ar y tudalennau hyn. Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu ond ni ddylai unrhyw gyswllt a wnewch gael ei wneud mewn ffordd ddirmygus neu mewn cyswllt camarweiniol.

Ymwadiad

Darperir y wefan ac unrhyw ddefnydd sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau'r llywodraeth (neu sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau unrhyw drydydd parti) 'fel ag y mae', heb fo unrhyw gynrychiolaeth neu ardystiad wedi'i wneud a heb sicrwydd o unrhyw fath bydded ddatganiedig neu ymhlyg, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, sicrwydd ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, anhresmasiad, cysondeb, diogelwch, cyfanrwydd a chywirdeb.

Nid ydym yn sicrhau nac yn cynrychioli y bydd y swyddogaethau a gynhwysir o fewn y defnydd sydd ar gael ar y wefan hon yn ddi-dor nac yn ddi-wall, y bydd pob nam yn cael ei gywiro, na bod y wefan hon na'r gweinyddwr sy'n ei chynnal yn rhydd o firysau nac yn cynrychioli llawn swyddogaethau, cywirdeb neu ddibynoldeb y defnyddiau.

Ni fyddwn Ni o dan unrhyw amgylchiadau nac mewn unrhyw achos yn atebol am unrhyw draul, colled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngder, colled neu ddifrod uniongyrchol neu ôl-ddilynol, neu unrhyw draul, neu golled neu ddifrod o gwbl yn arwain o ddefnyddio, neu golli, data, neu golled elw, yn arwain yn uniongyrchol neu mewn cysylltiad â defnyddio www.asiantaethcynnalplant.gov.uk, neu ddibynnu ar ei chynnwys.

Ni ellir sicrhau bod unrhyw drawsyriad data dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Tra Ein bod yn ymdrechu i ddiogelu gwybodaeth o'r fath, nid ydym Ni yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth a drawsyrrir atom Ni gennych Chi. Felly, caiff unrhyw wybodaeth a drawsyrrir gennych Chi atom Ni ei thrawsyrru ar Eich cyfrifoldeb Eich hun.

Nid fwriedir i'r wefan hon fod yn lle cyngor proffesiynol annibynnol a dylai defnyddwyr geisio cael unrhyw gyngor proffesiynol addas sy'n berthnasol i'w hamgylchiadau penodol.

Gallai'r defnydd ar y wefan hon gynnwys sylwadau neu argymhellion gan drydydd parti, nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Ei Mawrhydi, nac yn dynodi ei hymrwymiad i unrhyw weithred arbennig. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o'r fath gan drydydd parti.

Llywodraethu'r gyfraith

Caiff y termau a'r amodau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Dylai unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y termau a'r amodau hyn fod yn destun awdurdodaeth echgynhwysol y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Cysylltiadau i wefannau allanol

Bydd cysylltiadau ar y wefan yn arwain at wefannau eraill nad ydynt o dan Ein rheolaeth Ni. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan gysylltiedig. Ni ddylid cymryd rhestru a chysylltu i fod yn unrhyw fath o argymhelliad ac nid ydym Ni yn derbyn unrhyw atebolrwydd ynglŷn â'r cynnwys. Ni allwn sicrhau y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros bu'n ai fydd y tudalennau cysylltiedig ar gael ai peidio.

Diogelu'n erbyn firysau

Rydym Ni yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi defnydd ar y wefan hon ym mhob cam wrth greu Ein tudalennau. Rhaid i Chi gymryd Eich rhagofalon Eich hunan i sicrhau na fydd y broses a ddefnyddiwch Chi i ymweld â'r wefan hon yn Eich rhoi mewn perygl o firysau, côd cyfrifiadurol maleisus neu ddulliau eraill o ymyrraeth a allai ddifrodi Eich system gyfrifiadurol Chi Eich hunan. Mae wastad yn beth doeth i Chi redeg rhaglen gwrth-firysau ar bob defnydd a lawr-lwythir o'r rhyngrwyd.

Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data Chi neu i'ch system gyfrifiadurol Chi a allai ddigwydd wrth ddefnyddio defnydd sy'n deillio o'r wefan hon.

Amrywiad

Gallwn, ar unrhyw bryd, adolygu'r termau ac amodau hyn heb unrhyw rybudd. Dylech gadw golwg yn rheolaidd. Mae parhau i ddefnyddio'r wefan ar ôl i newid gael ei wneud yn golygu Eich bod Chi yn derbyn y newid hwnnw.

Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant i gyd-fynd â'r termau a'r amodau hyn lle bo methiant o'r fath yn deillio o amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth rhesymol Ni.

Os byddwn Ni yn ildio unrhyw hawl sydd ar gael i Ni o dan y termau a'r amodau hyn ar un achlysur, nid yw hynny'n golygu y bydd yr hawliau hynny yn cael eu hildio yn awtomatig eto ar unrhyw achlysur arall.

Os deilir bod unrhyw o'r termau a'r amodau hyn yn annilys, anorfodadwy neu'n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd gweddill y termau ac amodau serch hynny yn parhau i fod mewn grym yn gyfan gwbl.