Sefydlu cynhaliaeth plant

Bwriad yr adran hon yw i helpu rhieni i benderfynu os dylent ddefnyddio gwasanaethau'r CSA neu dod i gytundeb preifat eu hunain ynglŷn â chynhaliaeth.

Cytundebau preifat

Cytundeb preifat yw pan rydych chi a'ch cyn-bartner yn penderfynu rhyngddoch eich hunain faint o gynhaliaeth plant a ddylid ei thalu.




A yw'n addas i chi?

Ni fydd Cytundebau preifat yn addas i bawb. Defnyddiwch ein hofferyn hunanasesiad i weld os yw'n addas i chi.

Defnyddio'r CSA

Gallwn eich helpu drwy weithio allan faint o gynhaliaeth plant a ddylai gael ei thalu a chasglu taliadau cynhaliaeth ar eich rhan.


Beth rydym angen ei wybod

Pan fyddwn yn gweithio allan faint o gynhaliaeth plant a ddylai gael ei thalu, byddwn yn gofyn cwestiynau i'r ddau riant i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnom.

Ar fudd-daliadau?

Os ydych yn hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, efallai bydd yn effeithio ar y swm o gynhaliaeth plant y byddwch yn ei dderbyn neu yn ei dalu.

Budd-dal plant

Os ydych yn derbyn budd-dal plant ar gyfer eich plant, ni fydd hyn yn effeithio ar faint o gynhaliaeth plant a ddylid gael ei thalu.