HafanSefydlu cynhaliaeth plantPwy sy'n cael defnyddio'r CSA › Ceisiadau gan blant

Ceisiadau gan blant

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, dim ond rhiant, taid neu nain, neu warcheidwad plentyn all wneud cais am gynhaliaeth plant. Ond, yn yr Alban, gall rhai pobl ifanc wneud cais am gynhaliaeth plant os nad oes unrhyw un arall yn cael taliadau cynhaliaeth plant ar eu cyfer.

Gallwch wneud cais am gynhaliaeth plant os

  • rydych yn byw yn Yr Alban
  • rydych rhwng 12 oed a 19 oed ac rydych mewn addysg llawn amser (hyd at y Safon Higher)
  • rydych yn byw ar wahân i un neu i'ch dau riant
  • mae gan y rhiant (neu'r rhieni) nad ydych yn byw gyda hwy, gartref eu hunain yn Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr. Neu gallant fod yn byw dramor ond eu bod yn gweithio i gyflogwr gyda busnes yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Loegr.

Pryd gallaf ddim gwneud cais?

Ni allwch wneud cais am gynhaliaeth plant os oes rhywun wedi gwneud cais yn barod ar eich cyfer. Gallai'r person sydd wedi gwneud cais ar eich cyfer fod yn

  • un o'ch rhieni
  • y person sy'n byw gyda chi
  • brawd neu chwaer hŷn.

Mae amgylchiadau eraill pan na allwch wneud cais am gynhaliaeth plant yn cynnwys os oes gan eich rhieni

  • cytundeb cynhaliaeth ysgrifenedig
  • Llythyr o Gytundeb
  • Gorchymyn cynhaliaeth mewn grym.

Gallwch weld sut i wneud cais yma.