HafanSefydlu cynhaliaeth plantGwneud cais › Gwneud cais o dramor

Gwneud cais o dramor

Cysylltu â ni o dramor

Pan fo rhieni'n byw dramor

Dim ond pan fo'r ddau riant a'r plentyn yn byw yn y DU y gall y CSA ddelio â chais am gynhaliaeth plant.

Yr unig eithriadau i hyn yw pan fo'r rhiant dibreswyl

  • Yn gweithio dramor yng ngwasanaeth y goron, hynny yw eu bod yn wâs sifil neu'n gweithio o fewn Gwasanaeth Llysgenhadol EM neu wasanaeth sifil tramor EM.
  • Yn aelod o'r Lluoedd Arfog
  • Yn gweithio dramor i gwmni sy'n seiliedig yn y DU, hynny yw mae'n cyflogi pobl i weithio y tu allan i'r DU ond yn eu talu drwy gyflogres yn y DU; ac mae'r cwmni wedi'i gofrestru o dan y ddeddf cwmnîau 1985 (Cymru, Lloegr, a'r Alban) neu orchymyn (Gogledd Iwerddon) Gogledd Iwerddon 1986.
  • Yn gweithio dramor ar secondiad i gorff penodol, er enghraifft, ymddiriedolaeth GIG; neu awdurdod iechyd lleol; neu ymddiriedolaeth gofal cynradd; neu awdurdod lleol.

Gallwch gael mwy o gyngor ar ba un a yw'r rheolau hyn yn gymwys i chi gan ein Llinell Gymorth Genedlaethol ar +44 151 243 1901

Os nad yw'r rheolau'n gymwys

REMO (Gorfodaeth Gyfatebol o Orchmynion Cynhaliaeth)

Os bydd un o'r rhieni'n byw dramor ac nad ydynt yn dod o dan un o'r amodau uchod, gall y rhiant â gofal wneud cais i'r llysoedd am gynhaliaeth plant. Os bydd y rhiant â gofal angen help i gasglu'r arian y dyfarnwyd o dan y gorchymyn llys am gynhaliaeth plant gallant gysylltu â'r adran ar gyfer Gorfodaeth Gyfatebol o Orchmynion Cynhaliaeth yn swyddfa'r Cyfreithiwr Swyddogol a'r Ymddiriedolwr Gwladol. Gorfodaeth Gyfatebol o Orchmynion Cynhaliaeth neu REMO yw'r broses honno sy'n galluogi i'r llysoedd neu awdurdodau mewn gwledydd eraill allu cofrestru a gorfodi gorchmynion llys a wneir gan lysoedd y DU ar gyfer preswylwyr y DU.

Mae hwn yn drefniant cyfatebol sy'n golygu y gall llysoedd y DU hefyd gofrestru a gorfodi gorchmynion yn erbyn preswylwyr y DU a wneir gan lysoedd tramor er budd unigolion yn y gwledydd hynny.

Mwy am REMO

Pan fo'r rhiant dibreswyl yn byw yn Awstralia

os bydd y rhiant dibreswyl yn byw yn Awstralia a bod y rhiant â gofal yn byw yn y DU yna efallai y gall Asiantaeth Cynnal Plant Awstralia dderbyn cais i asesu cynhaliaeth.

Ewch i wefan Asiantaeth Cynnal Plant Awstralia

Ffonio o dramor

Fel rheol, ni ellir defnyddio'r rhifau 0845 a hysbysir yn ein taflenni ac ar y wefan hon wrth ffonio o dramor. Os yw'ch cynhaliaeth wedi cael ei chyfrifo gan y CSA gallwch nawr gysylltu â'r ganolfan sy'n delio â'ch achos gan ddefnyddio'r rhifau canlynol.

Falkirk: +44 1324 625758

Hastings: +44 1424 465095

Dudley: +44 1384 480188

Plymouth: +44 1752 695111

Birkenhead: +44 151 649 0861

Belfast: +44 28 9043 8596