HafanSefydlu cynhaliaeth plantGwneud cais › Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais am gynhaliaeth plant ar-lein gan ddefnyddio'r cysylltiad isod. Bydd clicio ar y cysylltiad yn mynd â chi i wefan DWP.

Cyn y gallwch wneud cais ar-lein bydd angen i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Phorth y Llywodraeth. Mae Porth y Llywodraeth yn wasanaeth cofrestru canolog ar gyfer gwasanaethau'r e-Llywodraeth yn y DU. Mae cofrestru gyda Phorth y Llywodraeth yn eich galluogi i ddefnyddio unrhyw un o wasanaethau Llywodraeth y DU sydd ar gael ar y Rhyngrwyd.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r broses cofrestru, byddwch yn gallu defnyddio dynodwr defnyddiwr unigol neu dystysgrif ddigidol er mwyn anfon neu dderbyn ffurflenni fel ceisiadau budd-dal a ffurflenni treth. Gellir anfon ffurflenni drwy ddefnyddio gwefannau Llywodraethol, pyrth neu becynnau meddalwedd gan drydydd parti.

Gwneud cais am gynhaliaeth plant ar-lein.