HafanSefydlu cynhaliaeth plant › Gwneud cais

Gwneud cais

Os ydych wedi ystyried eich opsiynau a'ch bod yn barod i wneud cais, gallwch ddechrau'r broses

Faint fydd hyn yn ei gymryd?

  • O fewn pedair wythnos - byddwn yn dechrau casglu gwybodaeth gan y rhiant dibreswyl os gall y rhiant â gofal roi manylion cyswllt presennol y rhiant dibreswyl i ni. Os na fydd gennym fanylion cyswllt presennol y rhiant dibreswyl, byddwn yn eu holrhain cyn gynted ag y gallwn.
  • O fewn 12 wythnos - anelwn at wneud penderfyniad cywir ar y cais, ond mewn rhai achosion gallai hyn gymryd hyd at 26 wythnos. Os nad oes gennym fanylion cyswllt presennol ar gyfer y rhiant dibreswyl, byddwn yn eu holrhain cyn gynted ag y gallwn.

Taliadau

  • O fewn chwe wythnos - pan fyddwn yn casglu cynhaliaeth plant, anelwn at wneud taliad cyntaf i'r rhiant â gofal unwaith y bydd y trefniadau talu gwreiddiol wedi cael eu gwneud gyda'r rhiant dibreswyl.
  • O fewn wythnos - byddwn yn gwneud taliadau cynhaliaeth i rieni â gofal o fewn wythnos o gael yr arian gan y rhiant dibreswyl.
  • O fewn pedwar mis - Os oes gan y rhiant dibreswyl swydd ond eu bod yn naill ai methu â thalu neu'n gwrthod talu, byddwn yn ceisio cael taliad drwy Orchymyn Didynnu o Enillion (DEO) ar ôl gwneud y trefniadau talu gwreiddiol.