Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Cael cymorth cyfreithiol › Gwneud cytundeb yn gyfreithiol rhwym
Gwneud cytundeb yn gyfreithiol rhwym
Gall gorchymyn cydsynio newid cytundebau preifat, sef y rhai hynny y cytunir arnynt trwy ymgynghori â chefnogaeth annibynnol fel cyfreithwyr neu gyfryngwyr a chyfreithwyr teulu cydweithredol, i fod yn gytundebau y gellir eu gorfodi os na fydd y naill riant yn cadw atynt. Unwaith y bydd y llysoedd wedi dyfarnu gorchymyn cydsynio, gallant wedyn orfodi'r cytundeb rhwng y rhieni. Bydd yn rhaid i chi dalu am gyngor cyfreithiol ac am ffioedd y llys.
Gallwch geisio cael gorchymyn cydsynio drwy'r llysoedd er mwyn ceisio gwneud unrhyw gytundeb rydych wedi ei wneud gyda'ch cyn bartner yn un y gellir ei orfodi'n gyfreithiol. Nid yw'n bwysig sut y daethoch i'r cytundeb hwnnw. Ond, os na allwch gytuno ar drefniadau ar gyfer cynhaliaeth plant, ni fydd y llys yn gwneud gorchymyn cydsynio.
Bydd eich cyfreithwyr yn cyflwyno gwybodaeth ynglŷn â'r hyn rydych wedi cytuno arno i'r llys ar eich rhan. Gelwir hyn yn Ddatganiad o Wybodaeth. Mae'r Datganiad o Wybodaeth yn rhestru gwybodaeth bersonol fel eich incwm a chyfalaf, ble rydych yn byw a pha un a oes gennych unrhyw gynlluniau i briodi neu fyw gyda rhywun yn y dyfodol.
Mae'r wybodaeth hon yn helpu'r llys i benderfynu os yw'r cytundeb rydych wedi cytuno arno o'ch dau yn deg. Bydd gennych chi a'ch cyn bartner ddealltwriaeth eglur o'r hyn rydych yn cytuno iddo.
Os bydd y llys yn penderfynu bod y cytundeb yn deg ac yn rhesymol bydd cyfreithiwr yn anfon cais iddynt am orchymyn cydsynio. Unwaith y bydd y llys wedi ei ddyfarnu, bydd eich cytundeb yn orfodol o dan y gyfraith. Golyga hyn y gallwch gymryd camau drwy'r llysoedd i wneud yn siŵr bod eich cyn bartner yn cadw at y cytundeb yn llawn neu'n rhannol. Gall y llys orfodi'r gorchymyn os byddwch chi neu'ch cyn bartner yn torri'r cytundeb.
Os yw'r gorchymyn cydsynio yn cynnwys cynhaliaeth plant, bydd yn osgoi'r angen i'r CSA ymyrryd cyn belled na fydd y rhiant y mae'ch plant yn byw gyda nhw yn gwneud cais am Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Os byddwch chi neu'ch cyn bartner yn penderfynu y byddai'n well gennych ddefnyddio gwasanaethau'r CSA ac y gwnaed eich gorchymyn cyn neu ar 3 Mawrth 2003, bydd angen i chi aros hyd nes bydd y gorchymyn wedi bod mewn grym am flwyddyn. Fodd bynnag os bydd y rhiant y mae'ch plant yn byw gyda nhw yn gwneud cais am Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm ni fydd y gorchymyn cydsynio bellach yn gymwys.
Os ydych yn Yr Alban, a bod eich gorchymyn cydsynio wedi ei gofnodi yn Llyfrau'r Cyngor a Sesiwn, gallwch ddim ond newid y cytundeb os oedd datganiad penodol yn y cytundeb gwreiddiol i'ch galluogi chi i'w newid. Os ddim, efallai y bydd yn rhaid i chi gael cytundeb newydd wedi'i lunio i ddisodli'r hen un; a bydd hynny'n golygu mwy o gostau.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Beth yw cynhaliaeth plant a sut mae'n effeithio arnaf fi?" [941Kb]

